Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, ELGAN PHILIP
Nofelydd ac awdur plant. Mae’n awdur poblogaidd a thoreithiog i blant ac oedolion. Ym 1998, gosodwyd ei nofel dditectif, Fel y Dur, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, Cyngor Celfyddydau Cymru. Ymhlith ei lyfrau i blant y mae’r gyfres, ’Cefn y Rhwyd’, sy’n adrodd hanes tîm pêl–droed. Llyfrgellydd Addysg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yw Elgan Philip Davies. Y mae’n briod a chanddo bedwar o blant.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Rhwng y Cwn a’r Brain (Hughes, 1991)
Rhyw Chwarae Plant (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1995)
Fel y Dur (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1998)
Cleddyf Llym Daufiniog (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003)
Yn y Baw a’r Llaca (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1999)
Cyffro’r Cwpan (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2000)
Cic o’r Smotyn (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2002)
Olion Hen Elyn (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004)
I’r Tir Tywyll (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004)
Galwad o'r Goleuni (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006)
Tu Cefn i'r Cyfan (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006)
Y Jaguar Glas Tywyll (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006)
Green Skinned Gravy (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2010)
Cyfres Bling: Mentro! Mentro! (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2010)
Cyfres Cip ar Gymru: Yr Hen Goleg (Gwasg Gomer, 2011)


