Rhestr Awduron Cymru
ROWLANDS, SIONED PUW
Mae Sioned Puw Rowlands yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru Dramor, sef yr asiantaeth a noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo llenyddiaeth Cymru yn rhyngwladol. Graddiodd mewn Athroniaeth ac Ieithoedd Modern o Goleg Newydd, Rhydychen, ac yna mynd ymlaen i wneud doethuriaeth mewn llenyddiaeth gymharol yng Ngholeg Sant Antwn, Rhydychen.
Mae hi’n awdur cyfrol o straeon byrion, Diogi a Chynhyrfu (1996), yn gyn gyd–olygydd y cylchgrawn Tu Chwith gydag Angharad Price, yn un o Gyfarwyddwyr Golygyddol y cylchgrawn ar–lein tairieithog, Transcript Review, sy’n trafod cyhoeddi a llenyddiaeth ar draws Ewrop, ac yn un o sylfaenwyr y cynllun Ewropeaidd, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Diogi a Chynhyrfu (Urdd Gobaith Cymru, 1996)
Byd y Nofelydd (Y Lolfa, 2003)
Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006)
Cyhoeddiadau Eraill:
Aber: Ysgrifau am Aberystwyth (cyfrannwr) (Gomer, 2008)
The Babel Guide to Welsh Fiction (cyfrannwr) (Boulevard Books, 2009)
Byd y Nofelydd (Y Lolfa, 2003)
Deg cyfweliad gyda rhai o brif nofelwyr cyfoes Cymru yn cynnwys Angharad Tomos, Bethan Gwanas a Mihangel Morgan. Maent yn mynd i'r afael a rhai o'r syniadau y tu ol i'r ysgrifennu ac yn trafod pynciau amrywiol a difyr.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


