Rhestr Awduron Cymru

HUWS, MEIRION MACINTYRE

Mei MacGaned a maged Meirion Macintyre Huws yng Nghaernarfon. Aeth ymlaen i raddio mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Bu’n gweithio i Ddŵr Cymru am 16 mlynedd cyn mynd yn ddylunydd graffig ar ei liwt ei hun. Ym 1993 enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd a’r cylch am ei awdl Gwawr. Mae’n dalyrnwr brwd ac yn cynnal llawer o weithdai barddoni poblogaidd yn yr ysgolion. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2001. Mae hefyd yn cymryd rhan yn Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru. Mae'n byw yn Nghlynnog Fawr ger Caernarfon.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Llong Wen a Cherddi Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)
Rhedeg Ras dan Awyr Las (Gwasg Hughes, 2001)
Melyn (Barddas, 2004)


Melyn (Barddas, 2004)
Cyfrol o gerddi yn bennaf yn y mesurau caeth, yn englynion a chywyddau. Maent yn adlewyrchu ymateb bardd cyfoes i'w hunaniaeth Gymreig ac i'w gymdeithas.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z