Rhestr Awduron Cymru

WILLIAMS, T. GRAHAM

131 Heol y Rhiw, Rhiwfawr, CWM TAWE SA9 2RF
Ffôn: (01639) 831010

Dramodydd, llefarydd, diddanwr. Ganed yng Nghefn Bryn Brain. Addysgwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a chyda'r Brifysgol Agored. Cipiodd y 'Whitaker Drama Trophy', un o brif wobrau drama Prydain. Ymddangosodd yng Ngwyl Caeredin yn ystod 1995 gyda'i gyflwyniad Un Dyn ar waith Dylan Thomas, yn ogystal â chael ei enwebu yn un o ddiddanwyr gorau'r flwyddyn. Enillodd Goron Eisteddfod Powys am gyfansoddi sgript deledu, a bu hefyd yn llwyddiannus yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn yr adran lenyddol.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Wales the whole year through the eyes of Dylan Thomas (Williams' Theatrical Enterprise)
People and Places of Wales (Eagerstripe Productions)

Cyhoeddiadau Eraill:
Hunaniaeth Gymreig/Welsh Identity (gol.) (Gwasg Dinefwr, 2004)






…….........

Pynciau sy'n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:

1. Ysgrifennu creadigol
2. Llenyddiaeth Brethyn Cartre'
3. Cyflwyno gwaith a chefndir bywyd Dylan Thomas trwy gerddoriaeth, llun a gair
4. Olion dylanwad Iolo Morganwg ar waith Dylan Thomas
5. Hanes datblygiad y ddrama yng Nghwmtawe Ucha'

Oedran y Gynulleidfa: Plant hyn ysgolion cynradd, disgyblion ysgol uwchradd, oedolion a dosbarthiadau addysg bellach

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z