Rhestr Awduron Cymru

WILLIAMS, GWYNNE

Cil–y–ri, Lôn yr Efail, Pentrebychan, WRECSAM LL14 4EN
Ffôn: (01978) 841386

Bardd ac awdur i blant. Ganed yn y Ponciau, Rhosllannerchrugog. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Rhiwabon a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyn-bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Dinas Brân Llangollen a darlithydd yn Adran Addysg Barhaus Prifysgol Cymru ers 12 mlynedd. Enillodd ei gyfrol gyntaf o gerddi wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1969. Ers hynny wedi ysgrifennu nifer o raglenni barddoniaeth a rhyddiaith ar gyfer Adran Ysgolion y BBC ac wedi cyhoeddi nifer o addasiadau o’r Saesneg, gan gynnwys Ych â Fi a Ffi-Ffai-Ffiaidd o waith Roald Dahl.


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Rhwng Gewyn ac Asgwrn (Gomer, 1969)
Gwreichion (Gomer, 1973)
Pysg (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)







…….....

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:

1. Darllen / trafod ei waith ei hun
2. Ysgrifennu barddoniaeth i blant
3. Creu ar y gynghanedd
4. Gweithdai ysgrifennu creadigol ym maes barddoni ac ysgrifennu i blant

Oedran y Gynulleidfa: plant / oedolion

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z