Rhestr Awduron Cymru
WILLIAMS, GARETH F.
35 Gwaun Miskin Road, Beddau, Pontypridd, CF38 2AU
Ffôn: (01443) 207063
Ganed a maged Gareth F. Williams ym Mhorthmadog. Mae'n awdur amser llawn ers dros ugain mlynedd. Dyfi Jyncshiyn oedd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, ond mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei lyfrau ar gyfer pobol ifanc, Dirgelwch Loch Ness a'i ddwy nofel, O Ddawns i Ddawns ac Adref heb Elin. Mae hefyd wedi ysgrifennu llawer iawn ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, gan gynnwys y ddrama Siôn a Siân ac, yn ddiweddar, addasiad llwyfan o Lyfr Mawr y Plant. Enillodd wobr BAFTA am ei sgript ffilm o Siôn a Siân, cyd-greodd y gyfres boblogaidd Pengelli ac enillodd wobr yr ŵyl Ffilmiau Geltaidd am ei gyfres Pen Tennyn.
Enwyd Creigiau Aberdaron (Gwasg Gwynedd, 2010) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
O Ddawns i Ddawns (Y Lolfa, 1996)
Adref heb Elin (Gomer, 2006)
Dyfi Jyncshiyn - y dyn blin (Gwasg Gwynedd, 2007)
Eira Mân, Eira Mawr (Gomer, 2007)
Dyfi Jyncshiyn - y ddynes yn yr haul (Gwasg Gwynedd, 2009)
Curig a'r Morlo (Gwasg Gwynedd, 2009)
Rhyfedd o Fyd (Gwasg Gwynedd, 2009)
Creigiau Aberdaron (Gwasg Gwynedd, 2010)
Mei Ling a Meirion (Gwasg Gwynedd, 2010)
Creigiau Aberdaron (Gwasg Gwynedd, 2010)
Gall creigiau traeth Aberdaron fod yn bethau peryglys a stormus, er eu harddwch. Felly hefyd y tensiwn rhwng rhai o deuluoedd y pentref. Dyma nofel feistrolgar, wedi'i lleoli ym mhentref hudolus Aberdaron.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Mei Ling a Meirion (Gwasg Gwynedd, 2010)
Nofel fer sy'n symud yn ddiwnïad rhwng y chwedegau - pan ddaeth Gregory Peck a channoedd o bobl Tseineaidd i ffilmio yn Eryri - a heddiw, gan ddilyn perthynas rhwng bachgen o ardal Porthmadog a merch o dras Tseineaidd o Lerpwl.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
…………
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Y gwaith o ysgrifennu’n greadigol
2. Nofelau pobl ifainc
3. Y nofel dditectif – Cymru a’r byd
Oedran y Gynulleidfa: ysgolion uwchradd ac oedolion. Dosbarthiadau hynaf ysgolion cynradd. Anghenion arbennig: sawl paned o de!


