Rhestr Awduron Cymru

TOMOS, ANGHARAD

Betws, Ffordd Haearn Bach, PENYGROES, Gwynedd LL54 6NY
Ffôn: (01286) 882134

Angharad TomosAddysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a Cholegau Aberystwyth, Bangor a’r Coleg Normal. Bu’n Ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith, yn ddylunydd graffig, yn ymchwilydd ac yn awdur preswyl. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ddwywaith, a Gwobr Cyngor y Celfyddydau a’r Academi Gymreig am Yma o Hyd. Mae hi'n adnabyddus am ei chyfres Rwdlan boblogaidd. Enillodd Wobr Tir na n-'Og ddwy waith efo Llipryn Llwyd (1985) a Sothach a Sglyfath (1993). Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug ym 1991 am Si Hei Lwli a Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym 1997 am Wele’n Gwawrio

Angharad Tomos yn derbyn Tlws Mary Vaughan Jones 2009Angharad Tomos oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2009 am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant.



Detholiad o Gyhoeddiadau
:
Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
Cyfres Rwdlan (hyd heddiw)
Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
Cyfres Guto (Cwmni Recordiau Sain)
Titrwm (Y Lolfa, 1994)
Wele’n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Llithro Dros Lythrennau (Y Lolfa, 2005)
Wrth fy Nagrau i (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
 

 

Pynciau cymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ysgrifennu creadigol gyda phlant: gellir ymestyn y drafodaeth i’w hannog i ysgrifennu storïau eu hunain
2. Trafod ysgrifennu ar gyfer plant / gwaith ei hun ac ysgrifennu creadigol
3. Darlith ar fywyd a gwaith David Thomas, Sosialydd

Oedran y Gynulleidfa: 7–11 oed (1) / oedolion

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z