Rhestr Awduron Cymru

RHYS, MANON

3 Plasturton Avenue, Pontcanna, CAERDYDD CF11 9HL
Ffôn: (029) 2037 4100
e–bost: manonrhys@aol.com

Manon RhysGaned yn Nhrealaw, Cwm Rhondda. Addysgwyd yn Ynyswen, Treorci, Ysgol y Porth, Y Rhondda, Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl a cholegau’r Brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Golygydd Cyfres y Cewri ac Ar Fy Myw a Taliesin, sef cylchgrawn llenyddol yr Academi. Awdur, sgriptiwr teledu gan gynnwys y cyfresi Pobol y Cwm a’r Palmant Aur. Bu Manon yn cyd-olygu y cylchgrawn Taliesin am ddeng mlynedd gyda Christine James. Mae Manon yn Gymrawd yr Academi.

Enwyd ei nofel Rara Avis ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006, ac enwyd ei chyfrol, Cornel Aur (Gwasg Gomer, 2009), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010. 

Neb Ond Ni (Gomer) oedd nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro, 2011.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cwtsho (Gomer)
Cysgodion (Gwasg Gomer 1995)
Pwy Bia’r Gân (ar y cyd â T. James Jones, Carreg Gwalch)
Cwm Glo (addasiad a chyfieithiad o ddrama J Kitchener Davies, Cymdeithas Ddrama Cymru)
Tridiau ac Angladd Cocrotshen (Gwasg Gomer 1996)
Y Palmant Aur: Siglo’r Crud (Gwasg Gomer 1998)
Y Palmant Aur: Rhannu’r Gwely (Gwasg Gomer 1999)
Y Palmant Aur: Cwilt Rhacs (Gwasg Gomer 1999)
Storïau’r Troad (Gol., Gwasg Gomer 2000)
James Kitchener Davies: Detholiad o’i Waith (Gol., Gwasg Prifysgol Cymru 2003)
Rara Avis (Gwasg Gomer 2005)
Cerddi’r Cymoedd (Gol., Gwasg Gomer 2005)
Cornel Aur (Gomer, 2009)
Neb Ond Ni (Gomer, 2011)


Adolygiadau:

"Brysiwch, slapiwch y rhybudd iechyd arni: GALL DARLLEN Y NOFEL HON DDIFRODI EICH RHAGDYBIAETHAU. Mae’r nofel hon yn peri i chi feddwl, yn peri i chi ddinistrio llawer o’ch delweddau cyfforddus am y Cymoedd ac am Gymreictod, hyd yn oed."
Meg Elis, Gwales.com, yn trafod Rara Avis


"Cawn yma flas ar sawl emosiwn – yn eu plith, ansicrwydd, ofn ac agweddau tuag at ddynion sydd yn dod law yn llaw â llais benywaidd dewisol yr awdur ac, yn hynny o beth, gall pob merch deimlo empathi i’r eithaf tuag at y cymeriadau lu - mae pob dynes wedi'i chau yn ei chornel aur ei hun. Wrth droi pob dalen, mae’r darllenydd, fel petai, yn agor cist i belydrau rhyfeddol seicoleg benywaidd a hynny drwy ddefnyddio arddull arbennig, unigryw. Mae Cornel Aur yn drysor heb ei ail."
Llinos Griffin, Gwales.com, yn trafod Cornel Aur


"Dan yr wyneb y mae cyffro nofel Manon Rhys, a chyffro cynnil iawn ydyw hefyd, ond cyffro gwefreiddiol serch hynny."
John Rowlands, Gwales.com, yn trafod Neb Ond Ni


Neb Ond Ni (Gwasg Gomer, 2011)
Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011. Mae Dewi a Siriol yn blant arbennig.. Mae hi'n dymuno'n ofer am gael rhedeg a dawnsio mewn pymps pinc; mae yntau'n gwrthryfela yn erbyn cael ei alw'n 'stiwpid' drwy herio pob trefn heblaw ei drefn resymol ei hun. Ac ni ŵyr neb ond nhw pa mor rhwystredig yw bod yn blentyn arbennig mewn cymdeithas sy'n mynnu labelu a thicio bocsys.

Ciciwich ar y clawr i brynu copi.

 

Cornel AurCornel Aur (Gwasg Gomer, 2009)
Casgliad o straeon, cerddi a llên meicro. Dyma gyfrol hirddisgwyliedig, annisgwyl Manon Rhys.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







………..

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:

1. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
2. Ysgrifennu creadigol a sgriptio ar gyfer y teledu

Oedran y Gynulleidfa: oedolion


 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z