Rhestr Awduron Cymru

ROBERTS, WILIAM OWEN

76 Pencisely Road, Llandâf, CAERDYDD CF5 1DQ
Ffôn: 029 2021 2390

Ganed a magwyd Wiliam Owen Roberts yng Ngarndolbenmaen. Bu’n fyfyriwr ym Mhifysgol Cymru, Aberystwyth, rhwng 1978-1981 gan raddio mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac astudiaethau theatr. Aeth ymlaen iddilyn cwrs MA ar ddramau teledu, gan ganolbwyntio ar waith Dennis Potter. Rhwng 1983-4 roedd yn ysgrifennu i Cwmni Cyfri Tri, cyn iddo fynd i weithio fel Golygydd Sgript yn HTV. Mae’n awdur llawn amser ers 1989.

Caiff ei adnabod yn bennaf am ei nofelau, ond mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y theatr, radio a theledu. Roedd ei nofel gyntaf Bingo! (1985) yn ailweithiad o ddyddiaduron Franz Kafka. Roedd ei ail nofel Y Pla (1987) wedi ei lleoli yng Nghymru, y Dwyrain Agos ac Ewrop yn y 14eg ganrif a cafodd ei chyfieithu gan Elisabeth Roberts i’r Saesneg fel Pestilence ym 1991. Roedd Paradwys (2001) wedi ei lleoli yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America a’r chwyldro Ffrengig ac yn ymdrîn â diddymiad caethwasiaeth. Mae ef yn Gymrawd yr Academi Gymreig.



Detholiad o Gyhoeddiadau:
Bingo! (Gwasg Dwyfor)
Hunangofiant – Y Blynyddoedd Glas (Gwasg Annwn, 1990)
Y Pla (Gwasg Annwn, 1992)
Paradwys (Barddas 2001)
Petrograd (Barddas, 2008)



Adolygiadau:

"Diau fod Paradwys yn un o'r nofelau mwyaf pellgyrhaeddol a gafodd ei hysgrifennu yn y Gymraeg erioed. Ac am Gymraeg! Dyma iaith fawr yn nwylo awdur heb ei ail."
Cyfnewidfa Lên Cymru

"Mae’r iaith yn tasgu mewn ffresni ac asbri, ac ni ellir ond dotio at rai troeon ymadrodd"
Gwenllïan Dafydd, Gwales.com, yn trafod Paradwys

"Mae rhywun yn synhwyro y byddai Tolstoi a Dostoevsky yn gwerthfawrogi'r gamp hon."
Dafydd Morgan Lewis, Gwales.com, yn trafod Petrogard



Petrogard (Barddas, 2008)
Mae'r nofel hon wedi ei lleoli yn Rwsia ac Ewrop ac yn dechrau yn ystod haf 1916 ac yn ymwneud â hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu'r newidiadau mawrion yn sgil y Chwyldro yn 1917

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



 

Paradwys (Barddas, 2001)
Chwyldroeon Ffrainc ac America a hanes chwarter olaf y ddeunawfed ganrif yw cyd-destun y nofel gan symud rhwng Llundain, Paris, Haiti a gogledd Cymru.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.




 

……….

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:

Unrhyw agwedd ar ysgrifennu creadigol

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z