Rhestr Awduron Cymru
REYNOLDS, IDRIS
Bryn Môr, Brynhoffnant, LLANDYSUL SA44 6DS
Ffôn: (01239) 654302 (cartref)
Bardd, llyfrgellydd a thiwtor. Magwyd Idris yn Synod Inn, ac addysgwyd yn ysgolion Gwenlli ac Aberaeron, a cholegau Aberystwyth. Enillydd cadeiriau cenedlaethol Eisteddfodau Dyffryn Conwy 1989 a Cheredigion, Aberystwyth 1992, ynghyd â nifer o wobrwyon eraill. Mae’n cyfrannu cerddi ac adolygiadau yn gyson at Barddas. Mae wedi cyhoeddi un gyfrol o farddoniaeth ac yn cystadlu’n gyson yn yr ornest lenyddol, Talwrn y Beirdd. Mae’n byw ym Mrynhoffnant, Ceredigion ac yn diwtor dosbarth trafod barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol yn Llanbed er 1989. Mae ef yn Gymrawd yr Academi Gymreig.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ar Lan y Môr (Gomer, 1994)
Draw Dros y Don (Gomer, 2004)
Cyhoeddiadau Eraill:
Y Grefft o Dan-y-Groes (gol.) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
……….
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei waith ei hun
2. Gweithdai ac ymarferiadau gyda’r cynganeddion
3. Awdlau a phryddestau diweddar
4. Y Bardd Gwlad
Oedran y Gynulleidfa: 16+


