Rhestr Awduron Cymru
REYNOLDS, ELINOR WYN
1 Y Llannerch, Caerfyrddin. SA31 1NG
Ffôn: 01267 221 533
Bardd a darlledwraig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hi wedi gweithio’n helaeth gyda phlant o bob oed yn y ddwy iaith gyda gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith amrywiol. Mae’n cyhoeddi ei gwaith yn gyson mewn cylchgronau megis Taliesin, Barn a Golwg. Mae hefyd yn ysgrifennu dramâu – perfformiodd Cwmni Theatr Bara Caws ei drama DJ Ffawst yn ystod Hydref 2000. Bu ynghlwm â theithiau barddonol Dal Clêr (1993), Taith Glyndwr (2000) a Lliwiau Rhyddid (2001). Hi oedd enillydd Stôl y Stomp yng Ngwyl Llên y Lli ym Mae Caerdydd 2000. Mae Elinor yn aelod Pwyllgor Aelodau Llenyddiaeth Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres Gwreichion: Shari Siffrwd-Tawel (Gomer, 2006)
Mwy o Hoff Gerddi Cymru (gol) (Gomer, 2010)
Cyhoeddiadau Eraill:
Ymddangosodd rhai o’i cherddi yn y canlynol:
Dal Clêr (Hughes, 1993)
Rhiwlas (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)
Ffwl yn y Dwr (Gomer, 1999)
Darllen Delweddau (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Oxygen (Seren, 2000)
O’r Iawn Ryw (Honno, 2002)
……….
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
2. Gweithdai rhyddiaith a barddoniaeth
Oedran y gynulleidfa: pob oed


