Rhestr Awduron Cymru
PRITCHARD, ELFYN
Heniarth, Sarnau, Y BALA, Gwynedd LL23 7LG
Ffôn: (01678) 530260
Awdur ac addysgwr. Ganed yng Ngwyddelwern yn yr hen Sir Feirionnydd. Addysgwyd yn Ysgol Ty Tan Domen, Y Bala a Choleg y Brifysgol, Bangor. Athro a phrifathro cynradd ym Meirionnydd, Prif Swyddog Datblygu Cynllun y Porth – cynllun iaith i ysgolion cynradd. Ymgynghorydd addysg gynradd i awdurdod Addysg Gwynedd hyd ei ymddeoliad. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001 am ei nofel Trwy’r Tywyllwch, a Gwobr Goffa Daniel Owen ym Meifod yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 am y nofel Pan Ddaw’r Dydd. Yn yr un flwyddyn, dyfarnwyd iddo Dlws Coffa Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Maes y Carneddau (Gomer, 1981)
Dwy Law Chwith (Gomer, 1989)
Cyfres Stori a Chwedl: Tan yn y Goedwig (Gomer, 1989)
Storïau Hans Andersen (Gwasg Dwyfor, 1990)
Cyfres Cled: Fe Ddaeth yr Awr (Gomer, 1996)
Trwy’r Tywyllwch (Gwasg Gomer 2001)
Pan Ddaw’r Dydd (Gomer, 2003)
Fel Nerthol Wynt (Gomer, 2005)
Ar Ddannedd y Plant (Gomer, 2010)
Cyhoeddiadau Eraill:
Un Dydd ar y Tro - Hunangofiant Trebor Edwards (cyd-awdur; Y Lolfa, 2008)
Adolygiadau:
"Yn ei ddawn i ddisgrifio y mae Elfyn Pritchard yn llwyddo yn bennaf, ei ddawn i lunio cymeriadau, creu awyrgylch a dadlennu pob agwedd o'r berthynas rhwng Eirwyn a'r ddwy wraig yn ei fywyd."
Catrin Jones, BBC Cymru'r Byd, yn trafod Pan Ddaw'r Dydd
"Fel y gellid disgwyl gan Elfyn Pritchard, mae iaith y gyfrol hon yn gyfoethog"
Janet Roberts, Gwales.com, yn trafod Ar Ddannedd y Plant
Ar Ddannedd y Plant (Gomer, 2010)
Gŵr y mae ei orffennol wedi effeithio’n fawr arno yw Meilir Parry sy’n byw dan ofal mewn sefydliad, ond i Trefor Puw, y newyddiadurwr sy’n methu ymddeol, mae’n stori dda…
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
…………
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Llenyddiaeth plant mewn addysg
2. Trin, trafod a chyflwyno straeon
3. Stori Bywyd - bywyd mewn stori a thrwy’r stori
4. Dawn y llenor a chyfoeth yr etifeddiaeth lenyddol
5 Hyn a’r llall ym myd llên
6 Byd y gair
7 Cofio O. M. (dathlu cant a hanner mlwyddiant ei eni eleni 2008)
Oedran y Gynulleidfa: plant cynradd ac athrawon (1-2) / oedolion (3-7)


