Rhestr Awduron Cymru
POWELL, ROBAT
Ganed Robat Powell yn Nhredegar, a dysgodd Gymraeg. Wedi iddo raddio mewn Almaeneg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, bu’n dysgu Almaeneg a Ffrangeg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Bellach mae’n swyddog ymchwil gyda sefydliad ymchwil addysgol cenedlaethol. Roedd ei awdl arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol 1985 yn torri cwys newydd o ran cyfleu cefndir diwydiannol ei fagwraeth yn y mesurau caeth. Ef oedd y dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Yr Adduned (Yr Academi Gymreig, 1976)
Haearn Iaith (Gwasg Gomer, 1996)
Cyfres Lleisiau: Pwy yw Tom Cruise? (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006)
Cyfres Lleisiau: Am Enw! (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006)
Cyfres Lleisiau Helynt Haf (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007)
Cyfres Lleisiau: Yn Y Canol (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007)
Cyfres Tonic 5 (2 gyfrol) (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007)


