Rhestr Awduron Cymru
EVANS, DONALD
Bardd. Ganed Donald Evans ym 1940 yn Esgair Onwy Fawr, fferm ar Fanc Siôn Cwilt yng Ngheredigion. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a dysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth. Mae bellach yn byw yn Nhalgarreg. Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r cylch ym 1977 ac yn Eisteddfod Dyffryn Lliw ym1980, ac mae’n fardd cynhyrchiol, yn feistr ar y mesurau caeth ond yn hoff hefyd o gyfuno cynghanedd a’r wers rydd.
Llyfryddiaeth ddethol
Cread Crist (Cyhoeddiadau Barddas1986)
Wrth Reddf (Cyhoeddiadau Barddas, 1994)
Y Cyntefig Cyfoes (Cyhoeddiadau Barddas, 2000)
Awdlau’r Brifwyl 1950-1999 (Donald Evans, 2008)
Cartre'n y Cread (Gwasg Gomer, 2010)
Sut i Greu Cywydd (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)


