Rhestr Awduron Cymru

GWANAS, BETHAN

Ffrwd y Gwyllt, Rhydymain, DOLGELLAU, Gwynedd LL40 2AH
Ebost: beth@bethan-gwanas.demon.co.uk
Ewch yma
 ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Bethan GwanasAwdur nofelau, llyfrau taith, straeon byrion, dramâu llwyfan, sgriptiau teledu a cholofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg. Merch fferm o ardal Dolgellau, enillodd radd mewn Ffrangeg cyn gweithio gyda VSO yn Nigeria. Bu’n gweithio i’r cyfryngau a’r Urdd a bu’n athrawes Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 1985, a Gwobr Tir na n-Og yn 2001 a 2003 am Llinyn Trôns a Sgôr

Mae Bethan hefyd yn adnabyddus am ysgrifennu llyfrau llwyddiannus Cymraeg ar gyfer oedolion, megis Amdani (Y Lolfa, 1997), sy'n adrodd hanes y byd rygbi o safbwynt merched ac a ysgogodd cyfres deledu ar S4C.

Mae hi hefyd yn deithwraig brwd sydd wedi cylchu'r byd mewn cwmni criw deledu ar gyfer S4C (taith a gafodd ei ddarlledu mewn dwy gyfres: 'Ar y Lein' ag 'Ar y Lein Eto'.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Amdani! (Y Lolfa, 1997)
Dyddiadur Gbara (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)
Bywyd Blodwen Jones (Gomer, 2001)
Llinyn Trôns (Gomer, 2002)
Blodwen Jones a’r Aderyn Prin (Gomer, 2001)
Popeth am Gariad…wel, bron (Gwynedd, 2001)
Sgôr (Y Lolfa, 2002)
Byd Bethan (Gomer, 2002)
Tri Chynnig i Blodwen Jones (Gomer, 2003)
Ceri Grafu (ACCCAC/Y Lolfa, 2003)
Gwrach y Gwyllt (Gomer, 2003)
Hi yw fy ffrind (Y Lolfa, 2004)
Ar y Lein (Hughes, 2004)
Mwy O Fyd Bethan (Gomer, 2005)
Pen Dafad (ACCAC/Y Lolfa, 2005; adargraffiad 2011)
Hi Oedd Fy FFrind (Y Lolfa, 2006)
Ar y Lein Eto (Gwasg Gwynedd, 2006)
Os Mêts (Y Lolfa, 2007)
Gwledydd Bychain (Y Lolfa, 2008)
Ar y Lein Eto Fyth (Gwasg Gwynedd, 2008)
Ramboy (Y Lolfa, 2009)
Dyddiadur Gbara (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
Gwrach y Gwyllt (Gwasg Gomer, 2009)

Adolygiadau:

 
"Un o'r nofelau mwyaf pwerus imi ddarllen erioed. Ni allaf gredu iddi lwyddo i wneud imi chwerthin a chrio yn afreolus o uchel." - Lowri Rees, BBC Cymru’r Byd (yn trafod Hi yw Fy Ffrind)


Gwrach y Gwyllt (Gwasg Gomer, 2009)
Dyma nofel feiddgar, gyffrous, sy'n llawn o chwarae a chwerwedd, rhyw a rhialtwch, hud a lledrith..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi. 






Ar Y Lein Eto Fyth (Gwasg Gwynedd, 2008)
Dyma'r trydydd o ddyddiaduron yn dilyn llinellau 'Ar y Lein'; ei hanes yn dilyn y cyhydedd o amgylch y byd ydi hwn. Ceir nifer o straeon difyr ynghyd â'i sylwadau hithau am amrywiaeth y diwylliannau a'r arferion, a'r systemau gwleidyddol ac economaidd y daeth ar eu traws

Cliciwch ar y clawr i brynu copi. 

 

Hi Oedd Fy Ffrind (Y Lolfa, 2006)
Dilyniant i'r gyfrol 'Hi yw fy Ffrind'. Ceir mwy o helyntion y ddwy ffrind Nia a Non yn y Brifysgol, ond wedi'r hwyl colegol daw diweddglo ysgytwol.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Hi Yw Fy Ffrind (Y Lolfa, 2004)
Nofel fyrlymus arall gan awdures mwya pobolgaidd Cymru sy'n mynd i fyd dwy ffrind agos yng nghanol y 70au.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Amdani (Y Lolfa, 2
Nofel yw hon am griw o ferched yn sefydlu tim rygbi. Od fel mae ambell un yn newid yn llwyr ar ol dianc oddi wrth y swnian. Ysgogodd y llyfr cyfres deledu ar S4C.

Cilciwch ar y clawr i brynu copi.


Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z