Rhestr Awduron Cymru
EMYR, JOHN
3 Ffordd St Isan, Y Mynydd Bychan, CAERDYDD CF14 4LU
Ffôn: (029) 2063 7400
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Awdur. Ganed yn Llanwnda a’i fagu yn Nhrefor. Addysgwyd yn Ysgol Glan Clwyd a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n athro Cymraeg a Saesneg, yn bennaeth Adran y Gymraeg yn ysgol Aberconwy ac Ysgol Friars, Bangor, ac yn olygydd addysgol. Ef yn awr yw golygydd cofnod Y Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ymddiddora yn y stori fer a chyhoeddodd hefyd nofelau, barddoniaeth a chyfrolau o feirniadaeth lenyddol. Dyfarnwyd iddo ddwy o ysgoloriaethau Cyngor y Celfyddydau, a darlledwyd sgriptiau o’i eiddo ar y radio a’r teledu.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Mynydd Gwaith a Storïau Eraill (Gee)
Lewis Valentine
Dyddiadur Milwr a Gweithiau Eraill (Golygydd, Gomer)
Enaid Clwyfus (Cyfrol ar Kate Roberts, 1976)
Bobi Jones (Prifysgol Cymru, 1991)
Porth yr Aur - Cofio J. Elwyn Davies (Gwasg Bryntirion, 2011)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei waith ei hun
2. Ysgrifennu creadigol a gwerthfawrogi llenyddiaeth
3. Y Stori Fer
Oedran y Gynulleidfa: 16–18 oed / oedolion


