Rhestr Awduron Cymru

EDWARDS, W.J.

Gwelfor, 3 Tregerddan, Bow Street, Ceredigion, SY24 5AU
Ffôn: (01970) 828350
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Brodor o Dre–Taliesin, Ceredigion ond a symudodd yn 15 oed i Bow Street. Gweithio mewn siop ddillad yn Aberystwyth ac yn Adran Lawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, cyn troi am y Weinidogaeth. Coleg y Bala, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg Coffa’r Annibynwyr, Abertawe. Ordeiniwyd yn eglwys hanesyddol yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, 1967, a chymryd gofal pedair eglwys Bresbyteraidd yn 1984 i ffurfio gweinidogaeth fro. Symud i Gaerfyrddin 1992, yn weinidog bro eto. Enillydd yn Adran Llên yr Eisteddfod Genedlaethol droeon. O’r Byd a’r Betws – colofn wythnosol ym mhapur Y Bala, Y Cyfnod, er 1973, ac yn dal ati. Yn cyfrannu’n gyson i gylchgronau Cymraeg.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cerdded y Clawdd Terfyn
Cofiant R. Dewi Williams
(Gee)
Cymanfa Bregethu Annibynwyr Meirion (Cymundeb Annibynwyr Meirion)

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z