Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, HAZEL WALFORD
Kings Heath, St David’s Road, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1EU
E-Bost: hwd@btinternet.com
Hanesydd theatr, beirniad llenyddol a darlithydd prifysgol. Ganwyd ym Mancffosfelen, ac addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen. Uwch–ddarlithydd mewn Astudiaethau Theatr, Prifysgol Cymru, Aberystwyth sydd hefyd wedi dysgu yn yr Adran Ddrama yno. Yn ogystal, mae Hazel wedi dysgu yn Ngholeg Manchester, Rhydychen, ag ym Mhrifysgol Morgannwg. Ers 1980, mae hi wedi bod yn ymweld a phrifysgolion ledled America fel athro gwadd.
Yn ddwiweddar, mae Hazel wedi cyhoeddi yn y Dictionary of National Biography newydd ac mae ganddi draethawd ar hanes perfformio Blodeuwedd gan Saunders Lewis yng nghyfrol Prifysgol Caergrawnt: New Cammbridge History of Twentieth-Century Theatre. Fel golygydd, mae ei chyfrol, Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) yn gasgliad o draethodau a beirniadaethau ar hanes Theatr Cenedlaethol Cymru, oll wedi'i comisiynnu'n arbennig.
Mae Hazel hefyd yn Aelod Bwrdd Llenyddiaeth Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
O.M Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)
Syr O.M Edwards: Bro a Bywyd (Cyngor Celfyddydau Cymru, 1988)
Hwiangerddi O.M Edwards (Gwasg Gregynog, 1994)
Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gomer, 1995)
State of Play: Four Playwrights of Wales (Gomer, 1998)
Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Cyfraniadau eraill:
Bro a Bywyd:11. Syr O.M. Edwards 1858-1920 (golygydd, Cyhoeddiadau Barddas, 1988)
State of Play: Four Playwrights of Wales (gol., Gomer, 1995)
Llwynfannau Lleol (gol., Gomer, 2000)
One Woman, One Voice (gol., Parthian, 2005)
Now You’re Talking (gol., Parthian, ailargraffiad 2005)
Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
Cliciwich ar y clawr i brynu copi


