Rhestr Awduron Cymru

DAVIES, GRAHAME

58 Stryd Hamilton, CAERDYDD CF11 9BP
Ffôn: (029) 2066 4241
Gwefan: www.grahamedavies.com
Ebost: er mwyn cysylltu Grahame drwy ebost, ewch i'r wefan uchod.

Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Grahame Davies gan Mauro ContiMae Grahame Davies yn fardd, yn nofelydd, yn olygydd ac yn feirniad llenyddol sydd wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Y mae wedi cyhoeddi 12 o lyfrau gan gynnwys Cadwyni Rhyddid, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn, y nofel Rhaid i Bopeth Newid, a roddwyd ar y rhestr hir ar gyfer yr un wobr, yr astudiaeth o Gymru a'r Iddewon, The Chosen People, a'r gyfrol seico-ddaearyddol, Real Wrexham. Yn frodor o Goedpoeth ger Wrecsam, lle y cafodd ei eni yn 1964, y mae'n byw ers blynyddoedd yng Nghaerdydd. Y mae ganddo radd Saesneg o Brifysgol Anglia Ruskin yng Nghaergrawnt, a doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd, lle y mae hefyd yn Gymrawd Ymchwil anrhydeddus yn yr adran grefydd. Mae hefyd wedi derbyn gradd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Anglia Ruskin, ac y mae'n gymrawd o Goleg Goodenough, Llundain. Teithiai'n rhyngwladol yn darlithio ac yn darllen ei waith. Y mae ei farddoniaeth wedi ei chyfieithu i lawer o ieithoedd. Ar ôl ennill gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn CCAT (bellach Prifysgol Anglia Ruskin) yng Nghaergrawnt, fe hyfforddodd fel newyddiadurwr gyda chwmni Thomson yn Newcastle-upon-Tyne gan weithio wedyn yn y cyfryngau yn ne Cymru. Mae ei yrfa fel newyddiadurwr a chynhyrchydd wedi dod â nifer o wobrau Cymreig a Phrydeinig i'w ran.

Yn 1997, fe dderbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru am ei astudiaeth o waith R.S. Thomas, Saunders Lewis, T.S. Eliot a Simone Weil. Roedd y gwaith, a ysgrifennwyd yn y Gymraeg, yn diffinio'r llenorion hyn fel rhan o fudiad gwrth-fodern yn niwylliant y Gorllewin yn yr ugeinfed ganrif. Enillodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Adennill Tir, (Barddas, 1997) Wobr Goffa Harri Webb. Prif ddeunydd y llyfr oedd profiadau'r awdur o o'r 10 mlynedd a dreuliodd yng Nghymoedd y de, ym Merthyr Tudful. Yn 1998, ef oedd yn ail i Emyr Lewis am goron Prifwyl Bro Ogwr, gyda'r tri beirniad yn ei gael yn deilwng o'r goron am ei ddilyniant "Rhyddid."

Yn 1999, cyhoeddwyd ei astudiaeth o Gymru a'r mudiad gwrth-fodern, Sefyll yn y Bwlch, (Gwasg Prifysgol Cymru), sef cynnyrch ei ddoethuriaeth. Disgrifiwyd y llyfr gan y beirniad Dr Dafydd Glyn Jones (Barn), fel: "astudiaeth a enilla'i le yn syth yn rheng flaenaf beirniadaeth ein dydd. " "A signal book" oedd disgrifiad y beirniad Dr Angharad Price ohono (New Welsh Review). Yn 2000, fe gydolygodd Oxygen, (Seren) blodeugerdd ddwyieithog o feirdd o Gymru o dan oed 45. Yn 2001, ymddangosodd ei ail gyfrol o farddoniaeth, Cadwyni Rhyddid, (Barddas). Aeth i ail argraffiad o fewn ychydig fisoedd ac fe enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yng Ngwyl y Gelli, 2002, ynghyd â £3,000 o arian. Yn 2002, fe gyhoeddodd Seren ei flodeugerdd lenyddol, The Chosen People, sy'n trafod perthynas y Cymru a'r Iddewon, fel mae'n ymddangos mewn llenyddiaeth. Yn 2002 hefyd, fe olygodd rhifyn 160-tudalen o'r cylchgrawn llenyddol Bwlgaraidd Plamak ("Fflam") wedi ei neilltuo i lenyddiaeth Cymru, y tro cyntaf i gasgliad Cymreig ymddangos yng ngwledydd y Balcan. Yn 2002 fe ymddangosodd Ffiniau/Borders, (Gomer) cyfrol ddwyieithog o farddoniaeth ar y cyd gydag Elin ap Hywel.

Yn 2004 ymddangosodd ei nofel gyntaf, Rhaid i Bopeth Newid (Gomer). Cafodd ei chynnwys ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005, ac fe'i disgrifiwyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn Taliesin fel y 'nofel ôl-genedlaetholaidd gyntaf '. Yn 2004 hefyd, ymddangosodd ei gasgliad o farddoniaeth Gymraeg mewn cyfieithiad Astwreg o wasg Kêr ar Mor dan y teitl Nel país del borrina (Gwlad y Cymylau). Yn 2005, ymddangosodd ei ddetholiad o farddoniaeth Gymraeg mewn cyfieithiad Galiseg dan y teitl No país de la brétema o wasg VTP Editorial. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd Seren The Big Book of Cardiff, blodeugerdd o ysgrifennu cyfoes am Gaerdydd, wedi ei gyd-olygu gyda Peter Finch. Yn 2005 hefyd, fe ymddangosodd ei drydedd gyfrol o farddoniaeth Gymraeg dan y teitl Achos (Barddas).

Yn 2006, ymddangosodd ei gasgliad o waith gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, Gwyl y Blaidd / Festival of the Wolf, o wasg Parthian/Hafan, wedi ei olygu ar y cyd gyda Tom Cheesman a Sylvie Hoffman. Yn 2007, cyhoeddodd Seren Everything Must Change, nofel Saesneg wedi'i seilio ar Rhaid i Bopeth Newid. Hefyd yn 2007, cyhoeddodd Seren Real Wrexham, cyfrol o seico-ddaearyddiaeth yn y gyfres Real a olygir gan Peter Finch. Cafodd ei ail-argraffu yn 2009.

Bydd ei astudiaeth helaeth o berthynas Cymru a'r Mwslimiaid drwy'r canrifoedd yn ymddangos o wasg Seren yn 2011. Bydd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Saesneg, The Complete Index of Welsh Emotion, yn ymddangos o Seren yn 2012. Ar y gweill y mae The Alchemy of Water, casgliad dwyieithog o farddoniaeth gyda Tony Curtis a chyda ffotograffiau tirlun gan Fred Jones. Cyfieithiwyd ei waith i nifer o ieithoedd, gan gynnwys: Saesneg, Almaeneg, Eidaleg, Latfieg, Maltaeg, Bwlgareg, Pwyleg, Astwreg, Galiseg, a Guglianesano. Mae hefyd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau mor amrywiol â The Times, The Times Literary Supplement, The Guardian, Poetry London, y Literary Review yn America, Orbis (#136 Gwanwyn 2006), Yearbook of Welsh Writing in English, Absinthe (Michigan, UDA, 3007), a Kalliope (yr Almaen, 2009), mae wedi ei gynnwys hefyd mewn nifer fawr o flodeugerddi. Mae'n golofnydd rheolaidd gyda Barddas ac yn gyfrannwr i gyfnodolion megis Poetry Wales, Barn, Taliesin, Planet a New Welsh Review. Mae'n gwneud darlleniadau a darlithoedd yn rheolaidd ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, mae'n ymddangos yn aml ar deledu a radio, mae wedi cyflawni nifer o gomisiynau mawrion ac yn cydweithio'n helaeth gydag artisitiaid ym meysydd cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Adennill Tir (Barddas, 1997)
Sefyll yn y Bwlch: Cymru a’r Mudiad Gwrth–Fodern-Astudiaeth o Waith T.S. Eliot, Simone Weil, Saunders Lewis ac R.S. Thomas (Prifysgol Cymru, 1999)
Oxygen (Seren, 2000) gydag Amy Wack
Cadwyni Rhyddid (Barddas, 2001)
The Chosen People:Wales and the Jews
(Seren, 2002)
Ffiniau / Borders (Gomer, 2002)
Rhaid i Bopeth Newid (Gomer, 2004)
The Big Book of Cardiff (Seren, 2005) gyda Peter Finch
Achos (Barddas, 2005)

Adolygiadau:

"Un o leisiau mwyaf annibynnol, a chan hynny, mwyaf diddorol barddoniaeth Gymraeg gyfoes."
Gerwyn Wiliams.

“Dychanwr heb ei ail,” John Gruffydd Jones.

"Dyma’r nofel ôl-genedlaetholaidd gyntaf," Dafydd Elis-Thomas am Rhaid i Bopeth Newid.

“Gall weld drwy dwyll a ffalster y bywyd dinesig, cyfryngol yn well na neb, ac mae’n ddeifiol yn ei weledigaeth o wacter y bywyd dinesig…mae gan y bardd hwn ddigon o feistrolaeth ar iaith i aflonyddu arnom, ac i gyrraedd at wraidd yr enaid.” Alan Llwyd.

“Ceir yma fyd-olwg newydd ar ein bywydau bob dydd ac mae’n orlwythog o ddelweddau ac ymadroddion cofiadwy.” Menna Elfyn.

“Mae ganddo ddawn dweud anhygoel. Nid oes un gerdd yn y gyfrol bron nad yw’n cynnwys brawddegau gwirioneddol dreiddgar a chlyfar.” Meirion MacIntyre Huws.



Mae'r portread o Grahame a welir uchod yn waith gan artist Lorraine Bewsey. Mae'n ffurfio rhan o gasgliad a elwir yn Portraits of Welsh Writers. Gellir cysylltu a Lorraine ar lorraine@lorrainesartstudio.co.uk

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z