Rhestr Awduron Cymru
DAFYDD, FFLUR
Safle we: www.fflurdafydd.com
Mae Fflur Dafydd, (g. 1978) yn nofelydd, academydd a cherddor o Gaerfyrddin. Daeth i amlygrwydd gyda’i chyfrol, Y Gwir am Gelwydd, casgliad arobryn Medal Lenyddiaeth yr Urdd 1999, tra’r roedd hi’n dal yn fyfyrwraig. Aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o gwrs enwog Prifysgol Dwyrain Anglia, cyn ennill doethuriaeth ar waith y bardd R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Wedi hynny, gweithiodd mewn amryw o gyfryngau, gan ysgrifennu ar gyfer y theatr, radio a theledu, cyn penderfynu canolbwyntio ar ryddiaith. Cafodd ei nofel gyntaf Lliwiau Liw Nos ei chyhoeddi yn 2005 ac enillodd ei hail nofel, Atyniad, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2006. Yng Ngwyl y Gelli 2009, fe gyhoeddwyd mai enillydd cyntaf Gwobr Awdur Ifanc yr Wyl oedd Fflur gyda'i nofel Saesneg gyntaf, Twenty Thousand Saints, ar wasg Alcemi. Ychydig fisoedd wedi cyhoeddi y Wobr yma, cyrhaeddodd
Fflur y brig unwaith eto yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau pan enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel, Y Llyfrgell. Bu’n awdur preswyl ar Ynys Enlli (2002) ac yn ninas Helsinki, Y Ffindir (2006) ac mae hi’n teithio’n gyson i amryw o wyliau llenyddol ledled y byd. Mae hi wedi cynnal darlleniadau yn Croatia, yr Eidal, yr Almaen, Norwy a’r Unol Daleithiau, ac fe fydd hi’n ymweld â’r Iseldiroedd ym mis Tachwedd 2007. Mae hi hefyd yn cyhoeddi ysgrifau beirniadol ar farddoniaeth R.S. Thomas ac yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.
Mae hi hefyd yn adnabyddus yng Nghymru fel cantores a chyfansoddwraig.
Detholiad o gyhoeddiadau:
Diwrnod Dwynwen (Cyf.) (Sgript Cymru, 2004)
Lliwiau Liw Nos (Y Lolfa, 2005)
Dramâu’r Drain: Helfa Drysor (Y Lolfa, 2006)
Atyniad (Y Lolfa, 2006)
Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009)
Awr y Locustiaid (Y Lolfa, 2010)Adolygiadau:
"O'r frawddeg agoriadol mae delweddau Fflur Dafydd yn gafael yn y darllenydd ac yn ei gofleidio tan y diwedd." - Mihangel Morgan (yn trafod Awr y Locustiaid)
"'Dw-i ddim yn cofio'r ail beth 'ddwedais i, saith mlynedd yn ol, pan ddarganfum storiau Fflur Dafydd. Ond dw-i'n cofio'r peth cyntaf: Wow! Mae hi'n cydio mewn brawddeg , ac yn ei thaflu'n delyneg i'r awyr. Ac mae'n hedfan. Wedyn, brawddeg, ac mae honno'n hedfan. Ac felly ymlaen, ac maen nhw i gyd yn telori'n ddisglair. Ac yna, fesul un, maen nhw'n disgyn tua'r llawr, ac yno yn ffurfio patrwm hyfryd. A'r hyn maen nhw'n 'ddweud gyda'i gilydd yw: "Onid yw bywyd yn llawn?" Sylw pwysig." Bobi Jones
"Yr hyn sy'n atyniadol yn y nofel yw ei ffresni, ffresni ei chymeriadaeth, ffresni ei harddull farddonol, ffresni ei digwyddiadau a'i hadroddiadau." Derec Llwyd Morgan (yn trafod Atyniad)
"Dyma wir artist y gystadleuaeth…prin bod tudalen o'r gwaith heb enghraifft o ddawn dweud anghyffredin, gyda'r awdur ar ei orau wrth ddangos y mân ganfyddiadau sydd yn dadlennu newidiadau sylfaenol mewn perthynas pobl â'i gilydd." Grahame Davies (yn trafod Atyniad)
Awr y Locustiaid (Y Lolfa, 2010)
Naw stori fer drawiadol. O'r Cymreig i'r Ewropeaidd, ac o'r dychanol i'r myfyriol, dyma gasgliad fydd yn swyno'r darllenydd, ond hefyd yn ei herio i lenwi ambell fwlch drosto'i hun.
Cliciwich ar y clawr i brynu copi.
Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009)
Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Atyniad (Y Lolfa, 2006)
Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006. Ynys Enlli yw prif gymeriad y nofel hon - yr ynys a'i hatyniad sy'n rheoli llanw a thrai teimladau'r cymeriadau lliwgar, yn ynyswyr, ymwelwyr ac awduron ddaw i'r ynys am gyfnod byr i chwilio am ddihangfa, llonyddwch a serch. Yng nghwmni un o'r awduron preswyl ceir darlun cyfareddol o ddylanwad yr ynys ar bobl a'u breuddwydion.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


