Rhestr Awduron Cymru

CHAPMAN, T. ROBIN

Bryn Dinas, 18, Ael Dinas, Aberystwyth, CEREDIGION, SY23 1BT
Ffôn: (01970) 612512
Ebost: ttc@aber.ac.uk
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

T. Robin ChapmanBeirniad, cyfieithydd a darlithydd. Ganed a maged yng Nghaerlyr. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor a derbyn gradd M.A mewn Cymraeg ar Amcanion a Chyrhaeddiadau ’Y Llenor’ W.J. Gruffydd, ac M.Ed. o Brifysgol Leeds.Ymhlith y cymeriadau y mae Dr Chapman wedi llunio cofiannau awdurdodol arnynt y mae W. J. Gruffydd ac Ambrose Bebb (yng nghyfres Dawn Dweud), a Ben Bowen ac Islwyn Ffowc Elis (yng nghyfres Writers of Wales). Ymhelaethodd ar ei waith ar Islwyn Ffowc Elis yn Rhywfaint o Anfarwoldeb (Gwasg Gomer, 2003), a alwyd gan Meic Stephens yn 'un o'r bywgraffiadau Cymraeg gorau rwyf wedi eu darllen'. Cyrhaeddodd y gyfrol restr fer hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Dyfarnwyd D. Litt Prifysgol Cymru iddo yn yr un flwyddyn.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Nodiadau’r Golygydd (Christopher Davies, 1986)
Iorwerth C. Peate (Gwasg Pantycelyn, 1988)
W.J. Gruffydd (Cyfres Dawn Dweud, Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
W. Ambrose Bebb (Cyfres Dawn Dweud, Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)
Rhywfaint o Anfarwoldeb: Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer, 2003)
Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (Cyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2004)
Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (Gwasg Gomer, 2006)
Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams: Damhegion, Distawrwydd a 'Dychrynodau' yn Ysgrifau T. H. Parry-Williams (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2010)

Adolygiadau:

"Dyma un o’r bywgraffiadau Cymraeg gorau rwyf wedi ei darllen yn ddiweddar ac rwy’n siŵr y caiff darllenwyr nofelau Islwyn Ffowc Elis yr un mwynhad – a’r un syndod." Meic Stephens (yn trafod Rhywfaint o Anfarwoldeb) 

Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (Gomer, 2006)
Roedd Saunders Lewis, un o Gymry mwyaf enigmatig a dadleuol yr ugeinfed ganrif, yn sypyn o wrthosodiadau: y milwr dewr a arweiniai blaid o heddychwyr; y bonheddwr diwreiddiau a ysgogodd werin wladgarol; y Pabydd tanbaid ymhlith Anghydffurfwyr cynyddol lugoer; y llenor a'r dramodydd a gyfaddefai nad oedd yn berchen ar dafodiaith ac na chredai fod cynulleidfa ar gyfer ei ddramâu. Ac eto, daeth y dieithryn hwn yn eicon Cymreig, a'i enw'n gyfystyr ag ymrafael ac eithafiaeth, ag aberth ac arwriaeth. Cofiant arbenning.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Rhywfaint o Anfarwoldeb: Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis
(Gomer, 2003)
Cyfrol yn rhoi sylw i gyfraniad Elis fel llenor, gwleidydd, beirniad a gw^r a gyfrannodd gymaint i ddiwylliant Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gyda detholiad o luniau gan gynnwys rhai o gasgliad personol Islwyn Ffowc Elis.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z