Rhestr Awduron Cymru
AP DAFYDD, MYRDDIN
Ysgubor Plas, Llwyndyrys, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NG
Ffôn: (01758) 750440 (cartref); (01758) 750432 neu (01492) 642031 (gwaith)
e–bost: myrddin@carreg-gwalch.co.uk
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Magwyd yn Llanrwst ac addysgwyd yn ysgolion y dref a choleg Aberystwyth. Ym 1980, sefydlodd Wasg Carreg Gwalch, sy’n cynnig gwasanaeth argraffu a chyhoeddi llyfrau. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gan gynnwys oddeutu chwech o’i waith ei hun, ond mae’r wasg erbyn hyn yn arbenigo ar lên gwerin, cylchgrawn Llafar Gwlad, barddoniaeth gyfoes, a phob math o ddeunydd darllen difyr i blant ac oedolion. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, mae’n barddoni ac enillodd gadeiriau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990 a Thyddewi 2002.
Mae Myrddin yn Gymrawd yr Academi.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cywyddau Cyhoeddus (Golygydd)
Cyfres Cerddi Lloerig i Blant (Golygydd)
Pen Draw’r Tir (Gwasg Carreg Gwalch)
Clawdd Cam (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Cerddi Cyntaf (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Pybcrol Llenyddol Caernarfon (Golygydd) (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Bore Newydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Wil Sam - Y Dyn Theatr (Golygydd) (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Y Gwalch, yr inc a'r bocsys (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Adolygiadau:
"llyfr byrlymus, yn cyfleu prysurdeb gyrfa Myrddin – o hanes siop lyfrau ei rieni hyd at ei fusnes ei hun yn cyflogi tîm o weithwyr. Dyma stori sydd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw traddodiad teuluol yn ogystal â mentro’n annibynnol. Mae’r stori yn frith o gyfeiriadau at beiriannau, at hanes adnewyddu adeiladau ac at gynhyrchu deunydd printiedig o bob math."
Llinos Griffith, Gwales.com yn trafod Y Gwalch, yr Inc a'r Bocsys
Y Gwalch, yr Inc a'r Bocsys (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Mae byd llyfrau Cymraeg wedi newid llawer ers y dyddiau cynnar hynny. Mae cysylltiad teulu Myrddin â’r farchnad arbennig hon yn mynd yn ôl i ddechrau’r 1950au…
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Bore Newydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Casgliad o gerddi.
Clawdd Cam (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Casgliad o farddoniaeth, gyda darluniau deniadol o Sir Benfro gan Sarah Young.


