Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, CERI
Adran y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg, Prifysgol Abertawe, ABERTAWE SA2 8PP
Ffon: 01792 295187
E–bost: c.davies@abertawe.ac.uk
Ysgolhaig clasurol, hanesydd llenyddol. Yn enedigol o’r Betws, Rhydaman, treuliodd y rhan fwyaf o’i fachgendod yn Nhreorci ac yna Aberystwyth. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Coleg y Brifysgol, Caerdydd a Choleg Iesu, Rhydychen. Yn awr yn Athro’r Clasuron ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ac yn Bennaeth Adran y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg. Ymhlith ei ei feysydd ymchwil y mae llenorion Lladin y Dadeni Dysg yng Nghymru, ynghyd a^ holl hanes y traddodiad clasurol yng Nghymru. Ar hyn o bryd y mae’n gweithio ar olygiad a chyfieithiad (ynghyd a^ rhagymadrodd a nodiadau) o destun Lladin Historiae Brytannicae Defensio Syr John Prys, a argraffwyd gyntaf yn 1573.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin, 1551–1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
John Davies o Fallwyd, Cyfres Lle^n y Llenor (Gwasg Pantycelyn, 2001)
Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2004)


