Rhestr Awduron Cymru

PAYNE, MARY ANNES

Mary Annes PayneDaw Mary Annes Payne o Ynys Môn. Bu’n byw yn yr Alban – lle bu’n dysgu Saesneg am gyfnod i ffoaduriaid y Cychod o Fietnam – ac ym Mhowys, cyn dychwelyd i Fôn, gan dreulio cyfnod fel athrawes anghenion arbennig. Erbyn hyn y mae wedi rhoi’r gorau i ddysgu er mwyn ymroi i ysgrifennu. Mae’n briod, ac yn fam i ddau o blant.  Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007 gyda’i nofel Rhodd Mam (Gomer, 2007) 

Detholiad o Gyhoeddiadau
Hogyn Syrcas (Gwasg Gomer, 2003)
Rhodd Mam (Gwasg Gomer, 2007)


Adolygiadau:

"Y mae hwn yn gampwaith ac y mae'r awdur wedi fy nghyfareddu. Mi fuaswn i'n rhoi unrhyw beth am fedru ysgrifennu fel hyn. Er mai yn nhafodiaith y Bowyseg y buaswn i'n gwneud! Mwy, os gweler yn dda, Mary Annes!"
Hafina Clwyd, Gwales.com, yn trafod Rhodd Mam

"Cryfder Hogyn Syrcas yw ei fod yn cynnig profiad cathartig i unrhyw berson gafodd fagwraeth wahanol (bron pawb felly)."
Dafydd Prys, Gwales.com, yn trafod Hogyn Syrcas



Rhodd Mam (Gwasg Gomer, 2007)
Enillodd y gyfrol hon y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007. Dyma nofel yn darlunio ymgais un ferch fach i wneud synnwyr o anhrefn ei phlentyndod

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z