Rhestr Awduron Cymru

HARKER, ESYLLT

Fflat Llawr Uchaf, 46 Carlton Terrace, Abertawe, SA1 6AE
Ffôn: (01792) 301398
e–bost: mana@corffallais.co.uk neu mana@bodyandvoice.co.uk
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Cyfarwydd a chantores. Magwyd yn Birkenhead, yr Almaen a’r Alban. Addysgwyd yng Nghaeredin – prifysgol a choleg addysg. Bu’n byw wedyn yng Ngwlad Groeg, Llundain, Caerdydd ac er 1993, Gwynedd. Chwedleua er 1994 - cafodd gymorth gan CCC i sefydlu cyflwyniadau i ferched (Hen Wlad fy Mamau) ac i blant (Rhibidirythm) ym 1996, ar gyfer perfformiad unigol (Mana - Hanes Menyw) yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997. Athrawes gynradd drwyddedig, actores broffesiynol ac ymarferwraig Shiatsu-Iachaol. Wedi gweithio hefyd gyda’r henoed a phobl ddifrifol anabl. Diddordeb mewn cyfuno mynegiant creadigol a phrosesau iacháu. Gall weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu Groeg.

Adolygiadau:

"Mae Esyllt wedi perfformio’n gyson yng Ngŵyl Storïa Ryngwladol ‘Beyond the Border’, mewn theatrau, ysgolion, ystafelloedd byw, cestyll, ar ben clogwyni…. mae hi’n enwog am y ffordd y mae hi’n llwyddo i wau’r Gymraeg a’r Saesneg at eu gilydd yn hawdd." Taith Rough Guide to Wales yn 2002.

Chwilio (2)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z