Rhestr Awduron Cymru

LLEWELYN, DAFYDD

Awdur nofelau a dramau ar gyfer oedolion a phlant ifanc. Ganed yn Abergele, a graddiodd mewn Drama a Pholisi Cymdeithasol yn y Brifysgol ym Mangor. Bu’n gwneud gwaith ymchwil a dysgu cyn cael ei benodi’n Olygydd Sgriptiau ‘Pobol y Cwm’ o fewn y BBC. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle 1990, daeth yn fuddugol yng ngystadleuaeth Y Ddrama Hir yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandeilo ym 1996, a blwyddyn yn ddiweddarch enillodd Medal Ddrama yn Eisteddfod Môn. 

Llwyfanwyd ei weithiau Spam Man (Theatr Na Nog) a Snog Spar (Theatr Frân Wen) yn y theatr, a darlledwyd dwy ddrama o’i eiddo, Plisgyn Wy a Y Quiche Berffaith ar Radio Cymru


Detholiad o Gyhoeddiadau
:
Tocyn i’r Nefoedd (Gwasg y Dref Wen, 2004)
Dramau’r Drain: Dawn Dweud (Y Lolfa, 2006)

Cyhoeddiadau Eraill:
Diwrnod Dwynwen: Chwe Drama Fer (ar y cyd, Sgript Cymru, 2004)


Tocyn i'r Nefoedd (Gwasg y Dref Wen, 2004)
Nofel ddychan ddoniol a thrieddgar am ragrith crefyddol swyddogion capel Soar, Llanaber wedi i'w gweinidog ifanc dderbyn sylw cenedlaethol..

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z