Rhestr Awduron Cymru
PARRI, HARRI
Y Gadlas, 14 Llys Gwyn, CAERNARFON, Gwynedd LL55 1EN
Ffôn/Ffacs: (01286) 672830
Gweinidog. Ganed yn Llyn, addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a’r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y stori fer a’r stori fer ddigri. Sgriptio ar gyfer radio, teledu a’r theatr. M.A. am ymchwil i hanes Meddygon y Ddafad Wyllt. Cyhoeddodd ddeg cyfrol o straeon byrion ffraeth a dwy nofel ynghyd â nifer o lyfrau eraill. Rhestrwyd ei lyfr Iaith y Brain ac Awen Brudd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2009.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Hufen a Moch Bach (Ty ar y Graig, 1976)
Babi a Mwnci Pric (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1981)
Dail Te a Motolwynion (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1982)
Rhyfel Pen Llŷn (Pantycelyn, 1992)
Howarth a Jac Black (Pantycelyn, 1993)
Etholedig Arglwyddes (Pantycelyn, 1993)
Bwci a Bedydd (Pantycelyn, 1996)
Tom Nefyn – Portread (Pantycelyn, 1999)
Elen Roger - Portread (Pantycelyn, 2000)
Shamus Mulligan a'r Parot (Pantycelyn, 2001)
Eirimango a'r Tebot Pinc (Gwasg y Bwythyn, 2003)
Yr Hen Barchedig - Portread o Anghydffurfiwr - Evan Jones, Caernarfon (Gwasg y Bwthyn, 2004)
Miss Pringle a’r Tatŵ (Gwasg y Bwthyn, 2005)
Er Budd Babis Ballybunion (Gwasg y Bwythyn, 2007)
Iaith y Brain ac Awen Brudd (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Adolygiadau:
"Yn y llyfr yma eto gwelir gafael gadarn Harri Parri ar ei gyfrwng. Yn ei gynildeb a’i gyffyrddiadau bach awgrymog y mae ei gryfder. Iaith lafar ei blas sydd yma ond eto mae’r gystrawen yn gyhyrog, y brawddegu’n llyfn a’r priod-ddulliau’n gyfoethog. Gall gyfleu llawer mewn ychydig eiriau.."
Dawi Griffiths, Gwales.com, yn trafod Iaith y Brain ac Awen Brudd
Iaith y Brain ac Awen Brudd (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Portreadau o nifer o gymeriadau a oedd yn wybyddus i'r awdur yn Llŷn ac Eifionydd.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
……....
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Crefft a datblygiad y stori fer ffraeth Gymraeg
2. Llenyddiaeth mewn hiwmor
3. Trafod ei waith ei hun ym maes y stori fer ddigri
Oedran y Gynulleidfa: oedolion


