Rhestr Awduron Cymru
OWEN, WYNFORD ELLIS
10 Queen Charlotte Drive, Creigiau, Caerdydd, CF15 9NY
Ffôn: (029) 2089 2323, Ffacs (029) 2089 1811
e–bost: wynfordowen@aol.com
Mae wedi bod yn actor llwyfan a theledu am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac mae’n awdur cyhoeddedig, ac yn ddramodydd a sgriptiwr dramâu radio a theledu. Ef ysgrifennodd y ffilm Porc Pei a ddyfarnwyd y ffilm orau yng Nghwyl Ffilm Ryngwladol Vürzburg yn yr Almaen 1999 - ac sydd wedi datblygu’n gyfres hynod lwyddiannus a phoblogaidd, Porc Peis Bach, ar S4C. Ef, hefyd, groniclodd hunllef yr alcoholig yn ei ddrama lwyfan a radio ingol, Gwin Coch a Fodca, a berfformiwyd gyntaf gan Theatr Powys yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr, 1998. Crëwr a chyd-sgriptwr y cyfresi cwlt i blant dan gant Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, mae wedi dylanwadu’n gryf ar genedlaethau o blant Cymru - er gwell gobeithio!
Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes ac wedyn yng Ngholeg Addysg Cyncoed, Caerdydd a Choleg Cerdd a Drama, Cymru cyn ymuno ag adran gynhyrchu’r BBC ym 1969. Un o’r cynharaf o fyd cyfryngau i fod yn hunangyflogedig (gadawodd y BBC ym 1971 wedi derbyn ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i’w gymhwyso’n gyfarwyddwr); mae’n gadeirydd ar ei undeb yng Nghymru (Equity), ac yn flaenor yn ei gapel yng Ngwaelod-y-Garth.
Treuliodd ei ddyddiau cynnar yn Llansannan yn yr hen Sir Ddinbych, a rhelyw ei blentyndod yn Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon, ble ’roedd ei dad yn weindog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Mae’n briod a chanddo ddwy ferch.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Porc Peis Bach (Hughes, 2000)
Raslas Bach a Mawr: Hunangofiant Wynford Ellis Owen (Gwasg Gomer, 2004)
No Room to Live - A Journey from Addiction to Recovery (Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, 2010)
Raslas Bach a Mawr: Hunangofiant Wynford Ellis Owen (Gomer, 2004)
Oes, mae yma ddau berson. Y llon a'r lleddf, y dwl a'r dwys - mae'r cyfan yn rhan o fywyd a chymeriad cymhleth gwrthrych diddorol yr hunangofiant arbennig hwn.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi
…….........
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ei waith ei hun
2. Ysbrydol yw’r cyfan (dylanwad Duw ar ei fywyd a’i waith)
Oedran y Gynulleidfa: pob oed


