Rhestr Awduron Cymru
OWEN, WILLIAM
Trem y Foel, Borth–y–Gest, PORTHMADOG LL49 9TP
Ffôn: (01766) 513620
Dramodydd a llenor. Brodor o ogledd Môn. Addysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Pennaeth Adran Addysg Grefyddol, Ysgol Eifionydd cyn ymddeol yn gynnar. Swyddog Cyhoeddi Gwasg Pantycelyn rhwng 1991 a 1995. Darlledwr mynych ar Radio Cymru. Nifer o wobrau Eisteddfodol yn cynnwys Tlws Drama Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llangefni, 1983.
Enwyd Can yr Alarch (Y Lolfa, 2010) wedi'i enwi ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Robin ’Rengan Las a’i Debyg (Ty ar y Graig)
Llacio’r Gengal (Gomer)
Rwbath at yr Achos (Gomer)
Y Llanc Nad Yw Mwy (Carreg Gwalch)
Tawelu’r Ysbrydion (Carreg Gwalch)
Dal i Frygowthan (Gwasg y Bwthyn, 2005)
Methu Peidio (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Can yr Alarch - Ysgrifau William Owen (Y Lolfa, 2010)
Adolygiadau:
“Casgliad goludog o ysgrifau… mae’r amrywiaeth, y cyfoeth iaith ac ymadrodd yn codi calon rhywun.”
Hafina Clwyd, yn trafod Methu Peidio
“Gwirionais ar ddawn dweud William Owen ac ar ei eirfa a’i ymadroddion cyfoethog.”
Kate Crockett, yn trafod Methu Peidio
“dawn sy’n troi geiriau yn llenyddiaeth a llenyddiaeth yn bleser.’
John Gruffudd Jones, Taliesin
"agosatrwydd, ffordd-o-ddweud a Chymraeg mor gyfoethog y mae'n pefrio o sofrenni geiriol."
Glyn Evans, BBC Cymru, yn trafod Cân yr Alarch
Can yr Alarch - Ysgrifau William Owen (Y Lolfa, 2010)
Casgliad amrywiol o ysgrifau am bob pwnc dan haul, o lenyddiaeth, drama, criced, ffilmiau, teithio a llawer mwy.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
…….
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Ei lyfrau a’i waith ei hun
2. Yr ysgrif bortread ac atgofion fel cyfryngau llenyddol
3. Llenyddiaeth sy’n trafod cyfnod plentyndod
4. Rhai agweddau ar y ddrama
5. Dawn lenyddol Môn
Oedran y Gynulleidfa: disgyblion ysgolion uwchradd (14-18) / oedolion


