Rhestr Awduron Cymru

OWEN, GERALLT LLOYD

Bardd a meuryn. Ganed Gerallt Lloyd Owen yn Llandderfel yn Sir Feirionnydd, ond symudodd y teulu yn fuan wedi hynny ac ym mhentref y Sarnau y’i magwyd, ar aelwyd a oedd yn ymhel yn frwd â’r Pethe ac yn eisteddfota’n selog. Cafodd ei addysg yn Ysgol Tŷ Tan Domen, y Bala, ac yn y Coleg Normal, Bangor a bu’n athro ysgol gynradd am gyfnod byr cyn iddo newid byd trwy sefydlu’r wasg lwyddiannus, Gwasg Gwynedd. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, am ei awdlau ’Afon’ (1975) a ’Cilmeri’ (1982), Mae’n adnabyddus wrth gwrs fel Meuryn y gystadleuaeth radio boblogaidd, Talwrn y Beirdd, ac Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ef yn Gymrawd yr Academi Gymreig.

Mae Gerallt yn ymddangos ar CD Steve Eaves, Moelyci, yn darllen darnau o’i gerdd ’Y Gwladwr’.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ugain Oed a'i Ganiadau (Argraffty'r Methodistiaid Calfinaidd, 1966)
Cerddi’r Cywilydd (Cyhoeddiadau Tir Iarll, 1972; Gwasg Gwynedd, 2006)
Cerwyn Corrach (Gwasg Gwynedd, 1991)
Cilmeri a Cherddi Eraill (Gwasg Gwynedd, 1991, 2006)
Caneuon Talwrn y Beirdd (Gwasg Gwynedd, 1993)
Fy Nghawl fy Hun (Gwasg Gwynedd, 1999)


Adolygiadau:

"Afraid yn y fan hon yw sôn am feistrolaeth Gerallt Lloyd Owen ar y grefft o gynganeddu a’i allu i gyfleu cymaint mewn ychydig eiriau dewisol. Mae ambell gerdd ysgytwol yn y casgliad, a’r bardd yn amlwg dan deimlad dwys wrth ei llunio, ac mae ei genedlaetholdeb a’i sensitifrwydd yn disgleirio drwy’r cyfan. Cyfrol i’w phrynu’n gynnar yn 2006, ac i’w thrysori."
Anwen Pierce, Gwales.com, yn trafod Cilmeri a Cherddi Eraill (adargraffiad 2006)

"..wrth i mi ymgolli yn y darllen, roeddwn yn fy nghael fy hun ar adegau yn teimlo i’r byw a’r galon yn curo. Does dim amheuaeth, felly, bod cyfiawnhad dros ailargraffu hon oherwydd ei themâu oesol a’r gobaith y bydd yn ysbrydoli darllenwyr newydd i’r gyfrol hon."
Leila Mair Salisbury, Gwales.com, yn trafod Cerddi'r Cywilydd (adargraffiad 2006)



Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 2006)
Cyfrol o gerddi caeth gwladgarol. Adargraffiad o gyfrol a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1972.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z