Rhestr Awduron Cymru
MORRIS, ELERI LLEWELYN
Cae’r Fedwen, Mynytho, PWLLHELI, Gwynedd LL53 7RH
Ffôn: (01758) 740401
Awdures. Ganed ym Mynytho, Llyn, ac addysgwyd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Bu ei chasgliad cyntaf o straeon byrion Straeon Bob Lliw, yn llyfr gosod Cymraeg TGAU am flynyddoedd. Roedd yn un o sefydlwyr Pais, y cylchgrawn Cymraeg i ferched, a bu’n gyd–olygydd arno am bum mlynedd. Y mae’n awr yn gweithio ar ei liwt ei hun fel ysgrifenwraig a chyfieithydd ar–y-pryd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Straeon Bob Lliw (Christopher Davies, 1978)
Inc Tafod Pinc (Tâf, 1990)
Genod Neis (Y Lolfa, 1993)
Cwlwm Serch (Hughes a’i Fab, 1995)
Breuddwyd Madlen (Y Lolfa, 1996)
Inc Wirion Bost (Tâf, 1996)
Yn Eu Helfen/Second Nature (Cyngor Gwarchod Natur)
Ffuglen a Ffaith (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2002)
…….....
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen / trafod ei gwaith ei hun
2. Gweithdai ysgrifennu creadigol ym maes rhyddiaith
Oedran y Gynulleidfa: 15-18 ac oedolion


