Rhestr Awduron Cymru
MORGAN, MIHANGEL
Porth Ceri, TAL–Y–BONT, Ceredigion SY24 5ED
Ffôn: (01970) 832656
Cysyllter hefyd ag Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Yn enedigol o Aberdâr, mae Mihangel Morgan yn byw yn Nhalybont, Ceredigion, ac yn gweithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn graddio.
Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei gasgliad o gerddi - Digon o Fwydod - ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Diflaniad Fy Fi (Barddas, 1988)
Beth yw Rhif Ffôn Duw? (Barddas, 1991)
Hen Lwybr a Storïau Eraill (Gomer, 1992)
Te Gyda’r Frenhines (Gomer, 1994)
Tair Ochr y Geiniog (Gomer, 1996)
Dirgel Ddyn (Gomer, 1996)
Dan Gadarn Goncrit (Y Lolfa, 1999)
Y Corff yn y Parc - A Storiau Ffeithiol Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
Llen y Llenor: Caradog Prichard (Gwasg Pantycelyn, 2000)
Nofelau Nawr: Modrybedd Afradlon (Gwasg Gomer, 2000)
Cathod a Chwn (Y Lolfa, 2000)
Y Ddynes Ddirgel (Y Lolfa, 2001)
Creision Hud (Y Lolfa, 2001)
Pan Oeddwn Fachgen (Y Lolfa, 2002)
Croniclau Pentre Simon (Y Lolfa, 2003)
Saith Pechod Marwol (Y Lolfa, 2004)
Melog (Seren, 2005)
Digon o Fwydod (Barddas, 2005)
Cestyll yn y Cymylau (Y Lolfa, 2007)
Pantglas (Y Lolfa, 2011)
Adolygiadau:
'Drylliwr delweddau yw Mihangel Morgan, fandal o lenor sy'n gwneud popeth y mae'r metanaratif cenedlaethol a llenyddol yn ei wahardd. Ef yw'r un sy'n tynnu llun mwstásh ar y Mona Lisa.'
John Rowlands
'Pwysigrwydd Mihangel Morgan yw ei ymwybyddiaeth boenus o ddwy hunaniaeth leiafrifol ac ymylol: y dyn hoyw a Chymro Cymraeg o gefndir trefol. Mae'r lleiafrifaeth honno wedi peri iddo fod yn llenor moesegol eithriadol; y llenor mwyaf moesegol yn holl hanes y Gymraeg, efallai.'
Simon Brooks
'Rhodd i'r iaith Gymraeg yw ieithwedd unigryw Mihangel Morgan.'
Jane Aaron
"Nofel ddisgrifiadol ddirgel o'r safon uchaf sydd yn wir werth ei darllen."
Y Cymro, yn trafod Dan Gadarn Goncrit
"Does dim pall ar ddychymyg yr awdur hwn. Petai J Howard Beynon yn bod, byddai'n rhaid iddo ddyfeisio Mihangel Morgan er mwyn sgrifennu cofiant sy'n deilwng ohono."
Tony Bianchi yn trafod Cestyll yn y Cymylau
"Un o gryfderau pennaf y nofel yw'r dafodiaith a geir ynddi. Mae'n gwbl ganolog i'w llwyddiant a'i phwrpas, a chredaf mai pleser pur fyddai gwrando ar rywun sy'n gyfarwydd â'r dafodiaith yn darllen y nofel yn uchel. Ychwaneger at hyn y cyfoeth o idiomau sy'n britho'r gyfrol. Gobeithio y bydd gennym gopi sain o'r gwaith yn fuan."
Dafydd Morgan Lewis, Gwales.com, yn trafod Pantglas
Pantglas (Y Lolfa, 2011)
Daw'r nofel fyrlymus hon â chast niferus yn fyw wrth i ni ddilyn helyntion cymeriadau fel Cati'r siop, y Parchedig John "Pantglas" Jones, Pitar Wad a Mair Ty Cornel. Yng nghanol yr hiwmor, mae sawl cyfrinach yn cael ei datgelu a chyn i'r dyffryn gael ei foddi daw sawl trasiedi i sgil y trigolion.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Cestyll yn y Cymylau (Y Lolfa, 2007)
Dyma gofiant unigryw i J Howard Beynon gan un arall o Aberdyddgu. Aethpwyd ati yn y gyfrol hon i geisio dod i adnabod Beynon gan siarad am y tro cyntaf a'i gydnabod am yr artist a'i fywyd dirgel.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
…….........
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen ei waith ei hun
2. Gweithdai arbrofol


