Rhestr Awduron Cymru
MORGAN, DEREC LLWYD
Bwa Bach, Capel Dewi, ABERYSTWYTH SY23 3HR
Ffôn: (01970) 820105
Bardd a beirniad llenyddol. Ganed yng Nghefnbrynbrain. Addysgwyd ym Mangor a Rhydychen. Athro’r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth hyd ei benodi’n Brifathro’r Coleg hwnnw ym 1995. Darlledwr cyson. Cyn–lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Gwna yn Llawen, Wr Ieuanc (Gomer, 1978)
Pobl Pantycelyn (Gomer, 1986)
Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Gomer, 1991)
Y Diwygiad Mawr (Gomer, 1999)
Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004: Nid Hwn Mo’r Llyfr Terfynol - Hanes Llenyddiaeth Thomas Parry (2004)
Tyred i'n Gwaredu - Bywyd John Roberts Llanfwrog (Gwasg y Bwthyn, 2010)
Adolygiadau:
"Wrth i’r Gymru seciwlar a datganoledig gamu i’w dyfodol, oni ddylid ystyried arwyddocâd a diflaniad ei gorffennol? Ceir help mawr i wneud hynny drwy bori yn nhudalennau’r gyfrol hon." Robert Pope, Gwales.com, yn trafod Tyred i'n Gwaredu
Tyred i'n Gwaredu - Bywyd John Roberts Llanfwrog (Gwasg y Bwthyn, 2010)
Cofiant y diweddar Barchedig John Roberts, Llanfwrog. Ceir yma hanes ei fywyd o'i gychwyniad yng Nglan yr Afon, Llanfwrog drwy ei gyfnod yn y Weinidogaeth, yr eglwysi y bu'n gwasanaethu ynddynt gyda chryn sylw yn cael ei roi i'w ddawn fel bardd ac yn arbennig fel emynydd.
…….......
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei farddoniaeth ei hun
2. Y Beibl a llenyddiaeth Gymraeg
3. Hanes syniadol Cymru Fodern
4. Agweddau ar lenyddiaeth yr Anghydffurfwyr
Oedran y Gynulleidfa: Disgyblion chweched dosbarth ac oedolion Ar gael: Trwy’r flwyddyn ac eithrio Gorffennaf ac Awst


