Rhestr Awduron Cymru
MILES, GARETH
13 Heol y Farchnad, PONTYPRIDD, Rhondda Cynon Tâf CF37 2ST
Ffôn: (01443) 485106 (gwaith)
e-bost: milltiroedd@aol.com
Awdur straeon byrion, nofel, cyfresi teledu a dramâu. Ganed yng Nghaernarfon, ac fe’i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Mae Gareth hefyd yn Aelod Bwrdd Llenyddiaeth Cymru, ac yn Gymrawd yr Academi Gymreig.
Enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2008 gyda’i gyfrol Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel. "Rhaid i sgwennwr ffuglen ddweud anwiredd er mwyn dweud y gwir," meddai Gareth Miles, ar y pryd, yn trafod y gyfrol honno.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cymru ar Wasgar
Treffin
Trefaelog (Annwn, 1989)
Duges Amalffi
Hunllef yng Nghymru Fydd
Dyrnod Branwen
Llafur Cariad (Hughes, 2001)
Ffatri Serch (Gawsg Carreg Gwalch, 2003)
Lleidr Da (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Hamlet (UWIC, 2005)
Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Teleduwiol (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Adolygiadau:
"Alla i eich sicrhau chi nad y'ch chi erioed wedi darllen nofel fel hon o'r blaen!"
Lowri Roberts, BBC Cymru, yn trafod Teleduwiol

Teleduwiol (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Nofel grafog, ddychanol yn adrodd hanes teulu o gyfryng-gwn Cymraeg sy'n elwa drwy gynhyrchu rhaglenni crefyddol..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Ceir yma olwg ar y berthynas daironglog, gythryblus rhwng Ivor Lewis y Diwygiwr a dwy ferch hardd: Magdalen Morgan, a fu’n butain yn East End, Llundain cyn ei thröedigaeth a’r weddw gefnog, Elinor Pennington-Rees.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi
……….
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ei waith ei hun
2. Swyddogaeth y Dramodydd
3. Hanes y ddrama Gymraeg
Oedran y Gynulleidfa: 16+


