Rhestr Awduron Cymru

MEREDITH, OWAIN

Awdur rhyddiaith. Ganed Owain yng Nghaerdydd ym 1969, a symudodd i Gwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn pan oedd yn ddeg oed. Wedi astudio yn Ysgol y Berwyn, y Bala, Coleg Technegol Gwynedd a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth ymunodd â chynllun Targed. Bu’n olygydd y cylchgrawn pop Sothach rhwng 1992 a 1995, ac yn rapiwr gyda’r grwp Pregethwr III cyn ymuno â HTV yng Nghaerdydd. Bellach, mae’n hanesydd ffilm ac yn un o gynhyrchwyr y gyfres boblogaidd Your Century.

Addaswyd ei gyfrol Diwrnod Hollol Mindlblowing Heddiw yn ffilm, a ddisgrifiwyd gan HTV fel "y ffilm ddogma gyntaf Gymreig." Rhyddhawyd y ffilm yn 2000 yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol Cymru.


Cyhoeddiad:

Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (Y Lolfa, 1997)



Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (Y Lolfa, 1997)
Dyddiadur gonest a chignoeth gwr ifanc sy'n crwydro o un sesh i'r llall o gwmpas Cymru, ac yn cwympo mewn ac allan o gariad. Llawn hiwmor gwallgo a beiddgar Cymro ifanc yn y 90au.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z