Rhestr Awduron Cymru

LLYWELYN, ROBIN

www.llywelyn.com

Awdur rhyddiaith. Ganed Robin Llywelyn yn Llanfrothen ym 1958. Debyniodd ei addysg yn Llanfrothen, Harlech, a Phrifysgol Cymru Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg a’r Wyddeleg. Yn ŵyr i’r pensaer Clough Williams–Ellis, ef bellach yw Rheolwr creadigaeth ei daid, pentref unigryw Portmeirion.

Yn ogystal â chyfrol o storïau byrion, cyhoeddodd ddwy nofel a agorodd gwys newydd ym myd rhyddiaith Gymraeg. Enillodd Seren Wen ar Gefndir Gwyn, a gyhoeddwyd ym 1992, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Daeth O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn o’r wasg ym 1994, ac enillodd hithau y Fedal Ryddiaith, a Gwobr Awdur y Flwyddyn y BBC. Cyfieithwyd ei waith i Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 am ei nofel Un Diwrnod yn yr Eisteddfod. Cyfieithwyd ei waith i'r Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg.


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Gomer, 1992)
O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn (Gomer, 1994)
Y Dŵr Mawr Llwyd (Gomer, 1995)
Un Diwrnod yn yr Eisteddfod - Gwbor Goffa Daniel Owen 2004 (Gomer, 2004)
Cyfres Cip ar Gymru: Portmeirion (Gomer, 2006)


Adolygiadau:

'Y mae Wil Chips yn llawn angerdd…ac, o'r herwydd, mae ganddo hawl i'n hanogaeth a'n cydymdeimlad.' - Hywel Teifi Edwards yn trafod Un Diwrnod yn yr Eisteddfod



Un Diwrnod yn yr Eisteddfod (Gomer, 2004)
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2004. Dyma nofel fer sy'n cwmpasu 24 awr ym mywyd Wil Chips, milwr tua 30 oed o Stiniog, sydd newydd ddychwelyd o Irac. Mae'n glanio yn yr Eisteddfod ar y dydd Gwener olaf.. Cliciwch ar y clawr i brynu copi. 







 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z