Rhestr Awduron Cymru
LLEWELYN, GWYN
Gogarth, PORTHAETHWY, Ynys Môn LL59 5BU
Ffôn: (01248) 715763
Darlledwr gyda mwy na deugain mlynedd o brofiad newyddiadurol. Brodor o Ynys Môn. Ymadawodd â’r ysgol yn un ar bymtheg oed i fynd yn ohebydd lleol. Gweithiodd wedyn ar y Western Mail ac oddi ar hynny gyda phob un o’r cyfundrefnau darlledu Cymraeg: Teledu Cymru, TWW, HTV, BBC (radio a theledu), a’r cwmnïau annibynnol. Am wyth mlynedd bu’n cyflwyno Hel Straeon i Ffilmiau’r Nant. Sefydlodd ym 1994 ei gwmni ei hun, Teledu Monitor i gynhyrchu a chyflwyno’r cyfresi taith poblogaidd Gwyn a’i Fyd. Wedi cyfnod byr yn y maes corfforaethol fel rheolwr cysylltiadau cyhoeddus dychwelodd at y BBC ym 1998 i gyflwyno newyddion Gogledd Cymru o Fangor.
Dyfarnwyd ei nofel, Yr Ias Yng Ngruddiau'r Rhosyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2000) yn ail gyda chlod uchel iddi yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2001.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Hel Straeon (Gwasg Gomer,1973)
Pry’r Gannwyll (Gwasg Gomer, 1975)
Gwyn a’i Fyd (Hughes/S4C, 1996)
Yr Ias Yng Ngruddiau'r Rhosyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Adolygiadau:
"Mae’r modd y saernïwyd y nofel hon yn wych - y cynnwys mor ddiddorol â’r mynegiant yn raenus…" - Aneurin Karadog (BBC, Llais Llen) yn trafod Yr Ias Yng Ngruddiau'r Rhosyn
Yr Ias Yng Ngruddiau'r Rhosyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Nofel gyffrous am fab y plas o Fôn a fu'n chwilio am ei ffortiwn ym mwynfeydd aur Transvaal cyn cael ei saethu am gefnu ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyfarnwyd yn ail yng nghystadleuaeth Gwbor Goffa Daniel Owen.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Ffuglen lenyddol
2. Sgriptiau radio a theledu


