Rhestr Awduron Cymru

JONES, T. JAMES

147 Goetre Fawr, Radur, Caerdydd, CF15 8ET

Ganed yng Nghastellnewydd Emlyn. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr, yn ddarlithydd drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn olygydd sgriptiau ’Pobol y Cwm’ (BBC). Coronwyd fel Bardd y Goron yn Eisteddfodau Abergwaun 1986 a Chasnewydd 1988.  Ef hefyd oedd Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007. 

Mae ef bellach yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Yn 2010 cyhoeddwyd ef yn Archdderwydd Eisteddfod Cenedlaethol Blaenau Gwent, dan ei enw barddol, Jim Parc Nest, yn olynydd i'r diweddar Dic Jones.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Dramâu’r Dewin (1982)
Pwy Bia’r Gân (ar y cyd â Manon Rhys) (1991)
Herod (Carreg Gwalch)
Eiliadau o Berthyn (Barddas, 1991)
O Barc Nest (Barddas, 1997)
Nawr (Barddas, 2008)


Adolygiadau:

"Yn ei gerddi caeth a rhydd, yn ei gyfieithiadau gorchestol o waith un o’i arwyr, Dylan Thomas, yn ei farwnadau a’i foliadau, mae T. James Jones yn cipio pinaclau ein barddoniaeth fel cenedl."
Iwan Llwyd, Gwales.com, yn trafod Nawr







…………...........

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:

1. Darllen a thrafod llenyddiaeth Gymraeg
2. Trafod ysgrifennu ar gyfer y theatr

Oedran y Gynulleidfa: oedolion / disgyblion ysgol uwchradd

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z