Rhestr Awduron Cymru
JONES, BOBI
Bardd, awdur rhyddiaith ac ysgolhaig. Magwyd Bobi Jones ar aelwyd Saesneg ei hiaith yng Nghaerdydd, ac wedi dod yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd y dysgodd Gymraeg. Wedi graddio yn y Gymraeg cafodd yrfa academaidd ddisglair; ar ei ymddeoliad ym 1989 ef oedd Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth. Ef hefyd oedd un o brif sylfaenwyr y mudiad i ddysgwyr, CYD. Mae wedi cyhoeddi rhyw 85 o lyfrau gan gynnwys beirniadaeth lenyddol, astudiaethau ym maes addysg, ieithyddiaeth, adfer iaith a diwinyddiaeth yn ogystal â nofelau, storïau byrion, hunangofiant, a barddoniaeth. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Ef yw Llywydd Llenyddiaeth Cymru.
Bellach, mae Bobi wedi lansio gwefan gyda chwe chyfrol newydd ar gael i'w llawrlwytho am ddim. Cliciwch yma i ymweld â'r wefan.
Yma ceir nofel newydd o'r enw Breuddwydion Maxine. Estyniad o'r straeon byrion canlynol yw'r nofel: Y Dyn na Ddaeth Adref 1966; Ci wrth y Drws 1968; Daw'r Pasg i Bawb 1963; Traed Prydferth 1973; Pwy Laddodd Miss Wales 1977; Crio Chwerthin 1990; Dawn Gweddwon 1991; Rhy Iach 2006, a'r nofelau, Nid yw Dwr yn Plygu 1958; Bod yn Wraig 1977; Epistol Serch a Selsig 1991.Yn ogystal mae yma gasgliad o gerddi, Beirniadaeth Lenyddol, trafodaeth ar Adenill yr Iaith a dwy drafodaeth ar ddiwinyddiaeth. Mae'r cwbl ar gael am ddim a dywed ar y wefan bod croeso i unrhyw un lawrlwytho'r deunydd a gwneud copïau am ddim.
Dywed Bobi Jones bod y mwyafrif o'i lyfrau bellach allan o brint, ac mai'r rhyngrwyd yw'r dyfodol felly dyma'r cam nesaf ymlaen. Disgwylir chwe chyfrol amrywiol arall y flwyddyn nesaf.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Hunllef Arthur (Barddas, 1986)
Crio Chwerthin (Barddas, 1990)
Dawn Gweddwon (Gomer, 1992)
Crist a Chedlaetholdeb (Gwasg Bryntirion, 1994)
Cyfriniaeth Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
Canu Araf - Ail Gasgliad o Gerddi (2 gyfrol, Barddas, 1994-1995)
Ynghylch Tawelwch (Barddas, 1998)
Llên y Llenor: Tair Rhamant Arthuraidd Gydag Arolwg o Derfynau Beirniadaeth Gyfansawdd (Gwasg Pantycelyn, 1998)
O’r Bedd i’r Crud (Gomer, 2000)
Ôl Troed (Barddas, 2003)
Rhy Iach: Storiau Byrion, (Barddas, 2004)
Meddwl y Gynghanedd (Barddas, 2005)
Y Fadarchen Hudol (Barddas, 2005)
Yr Amhortreadwy a Phortreadau Eraill (Barddas, 2009)
Adolygiadau:
"Er mai hon yw cyfrol olaf Bobi Jones o farddoniaeth, nid oes arwydd yma fod ei egni a’i greadigrwydd ar bylu. Nid cân olaf hen ddyn sydd yma. Mae ei olwg ffres ar y byd a Beti yr un mor herfeiddiol ag yr ydoedd adeg cyhoeddi ‘Y Gân Gyntaf’." - Eleri James, Gwales.com yn trafod Yr Amhortreadwy a Phortreadau Eraill
Yr Amhortreadwy a Phortreadau Eraill (Barddas, 2009)
Cyfrol olaf Bobi Jones o farddoniaeth. Ceir ynddi ymryson rhwng y Goruwchnaturiol a'r Naturiol, brwydr sy'n fwy cyfoes nag y bu ers tro..
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
O'r Bedd i'r Crud (Gomer, 2000)
Hunangofiant unigryw Bobi Jones, a fagwyd ar aelwyd Saesneg ei hiaith yng Nghaerdydd ond, o ddysgu Cymraeg, a ddatblygodd yn un o feirdd ac ysgolheigion praffaf Cymru yn ail hanner yr 20fed ganrif.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


