Rhestr Awduron Cymru

JONES, BRENDA WYN

Cae Derwen, Pen y Bronnydd, Tregarth, BANGOR, Gwynedd LL57 4AE
Ffôn: (01248) 600020
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Addasydd ac awdur llyfrau ar gyfer plant. Ganed Brenda ym Methesda, Arfon, ac aeth i Ysgolion Carneddi, Pen- y bryn ac Ysgol Sir Bethesda. Er fod ganddi freuddwydion o fod yn feddyg pan yn blentyn, llenyddiaeth oedd ei alwedigaeth. Dechreuodd ysgrifennu llyfrau pan oedd yn 25 oed. Addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Bu’n athrawes uwchradd ac yn ddarlithydd yn y Coleg Normal.

Mae Brenda yn gyfrifol am addasu nifer o lyfrau i’r Gymraeg o’r Saesneg ac am sgriptio rhaglenni plant i’r BBC.


Detholiad o Gyhoeddiadau
:
Sachaid o Straeon (Pantycelyn, 1995)
Campau Saith Cawr (Gomer 1998)
Bwli a Bradwr (ffuglen, Gwynedd, 1998)
Sais ydi o, Miss! (2000)
Ble mae John Iorc? (2001)
Bullies and Blacklegs (2002)
Cyfres Byd Lliwgar Mabon a Mabli: Pump Tedi Prysur (Mudiad Ysgolion Meithrin, 2002)
Sais Ydy O, Miss! (Gwasg Gwynedd, 2002)
Cyfres Byd Lliwgar Mabon a Mabli: Druan o M.. (Mudiad Ysgolion Meithrin, 2004)
Llyfr Mawr y Nadolig i'r Plant Lleiaf (Cyhoeddiadau'r Gair, 2007)

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z