Rhestr Awduron Cymru
JAMES, MELERI WYN
Cwm Pennant, Cliff Terrace, Aberystwyth SY23 2DN
Ffôn: (01970) 612521 (adre) 0774 7788 702 (symudol)
e–bost: meleri@nildram.co.uk
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Awdures a newyddiadurwr. Ganed yn Llandeilo a magwyd ym Meulah ac Aber–porth, addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o straeon, Mwydyn yn yr Afal, yn 1991 ar ôl ennill Medal Ryddiaith yr Urdd yn Eisteddfod Tâf Elai. Golygydd Cynorthwyol gydag Urdd Gobaith Cymru, Is-olygydd Celfyddydau gyda’r cylchgrawn Golwg ac yna Ymchwilydd gyda Radio Cymru, Abertawe. Gweithio ar ei liwt ei hun fel awdures, newyddiadurwraig a darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Golygydd Lingo Newydd i ddysgwyr. Ysgrifenwraig sgriptiau ar gyfer drama sebon Ponty ar Radio Cymru a Phobol y Cwm ar S4C. Cyhoeddwyd ei straeon a’i herthyglau mewn amryw o gyfnodolion gan gynnwys Golwg, Llais Llyfrau, Y Wawr, Taliesin, Sgrîn, Lingo Newydd a Mynd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Mwydyn yn yr Afal (Urdd Gobaith Cymru, 1991)
Diwrnod Da o Waith (Y Lolfa, 1999)
Nofelau Nawr: Gwendolin Pari P.I. (Gwasg Gomer, 2001)
Catrin Jones yn Unig(Gwasg Gomer, 2001)
Catrin Jones a'i Chwmni (Gwasg Gomer, 2001)
Cyfres Hoff Straeon: Tipyn o Gamp (Gwasg Gomer, 2003)
Stori a Mwy (Gwasg Gomer, 2003)
Gwenynen Bigog (Gwasg Gomer, 2003)
Tipyn o Gamp (Gwasg Gomer, 2003)
Cyfres Whap!: Mrch Dd@ Gwasg Gomer, 2005)
Cyfres i'r Byw: Y We Gwasg Gomer, 2005)
Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber (Gwasg Gomer, 2005)
Cyfres Whap: St@fell (Gwasg Gomer, 2005)
Cyfres Stori Sydyn: Parti Ann Haf (Gwasg Gomer, 2006)
Cyfres Lleisiau: Rhyfel Cartre (CAA, 2006)
Cyfres Whap!: hlo bri@n!:) (Gwasg Gomer, 2006)
Fyny Lawr (Gwasg Gomer, 2006)
Cyfres Bling: Dw i Eisiau Bod yn Enwog (Atebol, 2010)


