Rhestr Awduron Cymru

JONES, ALUN

Argraig, Sarn, PWLLHELI, Gwynedd LL53 8EE
Ffôn: (01758) 612907
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Nofelydd. Ganed yn Nhrefor, Arfon ac mae’n berchen siop lyfrau Llên Llyˆn ym Mhwllheli ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Bu'n llunio croesair Y Cymro am wyth mlynedd. Ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, Gwobr Goffa G.J. Williams gan Yr Academi Gymreig ym 1980, a Gwobr Cyngor y Celfyddydau ym 1982, 1984 a 1990. Mae’n briod ag Ann ac mae ganddynt bump o feibion. Ef yw awdur un o nofelau mwyaf poblogaidd y Gymraeg, Ac Yna Clywodd Swn y Môr.


Detholiad o Gyhoeddiadau:

Ac Yna Clywodd Swn y Môr (Gwasg Gomer, 1979; 2006)
Pan Ddaw’r Machlud (Gomer, 1981)
Oed Rhyw Addewid (Gomer, 1983)
Plentyn y Bwtias (Gomer, 1989)
Draw Dros y Tonnau Bach (Gomer, 2003)
Y Llaw Wen (Gomer, 2004)
Fy Mrawd a Minnau (Gomer, 2007)

Adolygiadau:

"Hon oedd nofel gyntaf Alun Jones a’r hyn sy’n galonogol yw’r ffordd y mae’r awdur, ar ôl campwaith mor addawol, wedi mynd ati i ddatblygu ac ymgryfhau o nofel i nofel ers hynny, a’r calondid mwyaf yn ddiweddar o weld nad yw wedi’i lwyr ddiflasu gan y rhwystredigaethau sy’n gallu mynd yn fwrn ar y nofelydd Cymraeg cyfoes, a bod cyfrol newydd sbon ganddo yn y siopau ers tro." Martin Davis, Gwales.com, yn trafod adargraffiad Ac Yna Clywodd Swn y Mor (2006)



Fy Mrawd a Minnau (Gomer, 2007)
Nofel am ddirgelwch, a chais i ddatrys yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol…


Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Ac Yna Clywodd Swn y Môr (2006)
Adargraffiad un o'r nofelau mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd i gael ei chyhoeddi yng Nghymru tua chwarter ola'r Ugeinfed Ganrif. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1979. Dyma gyfrol sy'n plethu themâu straeon ditectif, serch a chymdeithasol ynghyd.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z