Rhestr Awduron Cymru
ISLWYN, ALED
Gwâl Eirth, 31 Clodien Avenue, CAERDYDD CF14 3NL
Ffôn: (029) 2062 1773
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Nofelydd ac awdur storïau byrion. Ganwyd ym Mhort Talbot, addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru – Llanbedr Pont Steffan. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1977. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985. Dyfarnwyd ei gasgliad cyntaf o storïau, Unigolion, Unigeddau yn Llyfr y Flwyddyn 1995 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Lleuwen (Llyfrau’r Faner, 1977)
Sarah Arall (Dref Wen, 1982)
Cadw’r Chwedlau’n Fyw (Dref Wen, 1984)
Pedolau Dros y Crud (Gomer, 1987)
Unigolion, Unigeddau (Gomer, 1994)
Llosgi Gwern (Gomer, 1996)
Am fod Seth yn Angel (Gomer, 2001)
Out With It (Parthian, 2008)
Milwr Bychan Nesta (Gomer, 2009)
Adolygiadau:
"Dyma nofel sy’n peri i ni gwestiynu ein moesau ein hunain mewn byd anwaraidd – ai cau’r drws yn glep ar y byd tu allan yw’r ateb? Yn ddi-os, mae hon yn epig o nofel a fydd yn procio cydwybod pob un ohonom. Mae dawn arbennig yr awdur i wneud hynny a’i arddull gyhyrog i’w canmol i’r eithaf." Llinos Griffin, Gwales.com, yn trafod Milwr Bychan Nesta
Milwr Bychan Nesta (Gomer, 2009)
Mae bywyd Nesta'n newid pan ddaw o hyd i ddyn yn cysgu ar feranda ei byngalo ar gwr y coed. O hyn ymlaen byddai ganddi rywbeth difyrrach na'r teledu a rhywun a fyddai'n llai o siom iddi na'i theulu…
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


