Rhestr Awduron Cymru

HYWEL, EMYR

Cnwc yr Onnen, Blaenporth, Aberteifi, Ceredigion SA43 2BD
Ffôn: 01239 810045
Ebost: emyr@uku.co.uk
Ewch yma
 ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

altNofelydd a bardd. Ganed ym Mlaenporth ac yno y mae’n byw. Addysgwyd yn Aberteifi. Dilynodd gwrs athro yng Ngholeg Addysg Y Barri a graddiodd yn y Gymraeg gyda dosbarth cyntaf yn 1998 dan gynllun gradd allanol Prifysgol Aberystwyth. Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Ffrwyth y gystadleuaeth honno yw’r nofel Dyddiau’r Drin. Bu’n gyfrifol am olygu cerddi Cymraeg disgyblion ysgol a baratowyd ar gyfer Cynllun Ysgrifennu Creadigol Cwmni Theatr Arad Goch ar y thema bwlio. Cyfrannwr i amryw o gyfnodolion. Prifathro yn ysgol Tregroes sydd bellach wedi ymddeol. Bu hefyd yn Swyddog Datblygu Gwyl Werin y Cnapan ac Aerwyl.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Gwaedlyd y Gad (D. Brown a’i Feibion Cyf, 1974)
Gwehilion (1974 )
O Grafanc y Gyfraith (Gwasg Christopher Davies, 1979)
Dyddiau’r Drin (Cyhoeddiadau Barddas, 1989).
Ymolchi Mewn Cwstard (CBAC, 1992)
Tŷ Mamgu (CBAC, 1992)
Annwyl D.J. - Llythyrau D.J. Saunders a Kate (gol.) (Y Lolfa, 2007)
Y Cawr o Rydcymerau - Cofiant D.J. Williams (Y Lolfa, 2009)

Adolygiadau:

"Mae hon yn gyfrol broffesiynol, ysgolheigaidd sy’n dangos treiddgarwch mwy nag a ddisgwylir mewn ymarfer academaidd arferol. Dylai pob un llengar ei chael ar ei silff." John Rowlands, Gwales.com yn trafod Y Cawr o Rydcymerau



Y Cawr o Rydcymerau - Cofiant D.J. Williams (Y Lolfa, 2009)
Dyma'r cofiant cyflawn cyntaf am fywyd a gwaith y Cymro nodedig hwn, a chyhoeddir ynddo hefyd, am y tro cyntaf, ddetholiad o'i ddyddiaduron.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.






Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z