Rhestr Awduron Cymru
HUGHES, R. CYRIL
Neuadd Lwyd, Penmynydd, LLANFAIRPWLL, Ynys Mon LL61 5BX
Ffôn: (01248) 714071
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Nofelydd hanesyddol a aned yng Nghaergybi. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Bae Colwyn a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gwnaeth ymchwil mewn Addysg. Bu'n gweithio fel athro ym Mae Colwyn, Rhiwabon a Wrecsam cyn mynd yn Uwch–ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor, ac wedyn yn Uwch Swyddog Ymgynghorol gydag Awdurdod Addysg Gwynedd. Wedi iddo ymddeol, ailgydiodd Hughes mewn ysgrifennu.
Cyhoeddodd tair nofel hanesyddol nodedig am Catrin o Ferain (1534-1591, merch boneddigion, a nodddwraig y beirdd yn yr unfed ganrif ar bymtheg). Enillodd wobrau coffa Gruffudd John Williams a Daniel Owen yn 1984 (am ei gyfrol Castell Cyfaddawd).
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Catrin o Ferain (Gwasg Gomer, 1975, 2001)
Dinas Ddihenydd (Gwasg Gomer, 1976)
Castell Cyfaddawd (Gwasg Gomer, 1984)
Maes Bosworth (Gwasg y Dref Wen, 2005)
Adolygiad:
"Oes gobaith am ffilm neu gyfres swmpus a deallus? Dim ond gofyn. Mi dalai i lawer sydd yng Nghaerdydd daro heibio i ymweld â Chatrin" - Meg Elis, Gwales.com (yn trafod yr argraffiad newydd o Catrin o Ferain yn 2001)
Catrin o Ferain (Gwasg Gomer, 1975, 2001)
Argraffiad newydd o nofel wedi ei seilio ar hanes gwir Catrin o Ferain, aeres gyfoethog ac un o wragedd mwyaf dylanwadol Gogledd Cymru yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


