Rhestr Awduron Cymru

HUGHES, MAIR WYNN

Hendre Cennin, Pentraeth, Ynys Môn, LL75 8YF
Ebost: Maircennin@btinternet.com
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Mair Wynn HughesGaned ym Mryncir, Eifionydd 12ed o Fedi 1931.  Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Brynengan, Ysgol Ramadeg, Penygroes, Coleg y Normal, Bangor.  Gwraig fferm ac athrawes ym Mhentraeth am rai blynyddoedd.  Bellach wedi ymddeol, mae Mair yn awdur ar tua naw deg o lyfrau i blant ieuanc a’r arddegau. 

Bu'n ennillydd Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith: cyd-enillydd efo Y Llinyn Arian (Gomer, 1984), Llygedyn o Heulwen (Gomer, 1990), Coch yw Lliw Hunllef (Gomer, 1996 ) ac Ein Rhyfel Ni  (Gwasg y Bwthyn, 2007). Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2006.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Llinyn Arian (Gomer, 1984)
Llygedyn o Heulwen (Gomer, 1989)
Tipyn o Smonach (Gomer, 1989)
Mêl I Gyd (Gomer, 1989)
Trip a Hanner (Gwasg y Bwthyn, 2001)
Y Fo yn y Tŷ (Gwasg y Bwthyn, 2003)
Rhyfel y Degwm (Gomer, 2003)
Waw Antur Eto (Gwasg y Bwthyn, 2004)
Rhy Ifanc I Ryfel (Gomer, 2006)
Ein Rhyfel Ni (Gwasg y Bwthyn, 2006)
F’Annwyl Leusa (Gwasg y Bwthyn, 2007)
I Feysydd Pell (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Dim ots Pwy (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Ewinedd Pwy (Gwasg y Bwthyn, 2008)

Adolygiadau:

“[mae'n] llwyddo i greu awyrgylch bygythiol, ac i ddenu’r darllenydd i fyd annifyr a thywyll”
Aran Jones, Gwales.com (yn trafod Y Fo yn y Tŷ)

“Darlun craff o lanastr rhyfel, yn arbennig ei dwyll.”
Marc White, Western Mail (yn trafod F'Annwyl Leusa')

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z