Rhestr Awduron Cymru
HUGHES, J. ELWYN
Bryn Ogwen, Bethel, CAERNARFON, Gwynedd LL55 3AA
Ffôn: (01248) 670517
e–bost: johnelwyn@btinternet.com
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Awdur, golygydd, ieithydd a hanesydd lleol Dyffryn Ogwen. Ganwyd ym Methesda ac addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Astudiaethau Celtaidd ac ennill gradd MA am ei waith ar Dan Isaac Davies (a gyhoeddwyd dan y teitl Arloeswr Dwyieithedd). Bu’n Bennaeth Adran Gymraeg ei hen ysgol, yna’n Ddirprwy Brifathro ac wedi hynny’n Brifathro’r ysgol. Ym 1987, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Iaith. Bellach, mae’n Ymgynghorydd Iaith hunangyflogedig. Ef yw Golygydd Cyffredinol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfodau Cenedlaethol, ac awdur un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yn yr iaith Gymraeg, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu. Ar sail ei ddwy gyfrol am Caradog Prichard ac Un Nos Ola Leuad, dyfarnwyd iddo radd PhD gan Brifysgol Bangor yn 2009.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Moliannwn y Bardd o Fethesda (Y Bala, 1978)
Englynion Beddau Dyffryn Ogwen (Gomer, 1979)
Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg (Gomer, 1998)
Gair i Glaf: An English–Welsh Phrasebook for Health Care Professionals (Caernarfon, 1999)
Geiriau’r Newyddion / News-Speak 1, 2, 3, 4 (Llangefni, 1995, Caernarfon, 1996, 1997, 1999)
Byd a Bywyd Caradog Pritchard (Barddas, 2005)
Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad (Barddas, 2008)


