Rhestr Awduron Cymru
GRIFFITHS, BRUCE
5 Heol Belmont, BANGOR LL57 2HS
Ffôn: (01248) 371 987
Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad
Geiriadurwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd llenyddol. Ganed ym Mlaenau Ffestiniog. Addysgwyd yng Ngholeg Iesu Rhydychen a Choleg y Gogledd Bangor. Fel golygydd Geiriadur yr Academi, bu'n gweithio efo Dafydd Glyn Jones ar y prosiect i greu'r geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed. Bu'n ddarlithydd Ffrangeg yn Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor, ac bellach wedi ymddeol.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Claf Diglefyd (cyf. Molière, Gwasg Prifysgol Cymru)
Saunders Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)
Y Dieithrin (cyf. Camus, Yr Academi Gymreig)
Pennau Llifiau, Pennau Cwn (Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd)
Geiriadur Saesneg – Cymraeg yr Academi (Cyd–olygydd)
Adolygiadau:
‘Bydd yn angenrheidiol i Gymry Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd ac yn hawlio ‘i le ymhob cartref, ysgol a swyddfa yng Nghymru, ac mewn llyfrgelloedd a phrifysgolion drwy’r byd.’ Cadwyn CYD (yn trafod Geiriadur yr Academi)
‘Hwn fydd y geiriadur Saesneg-Cymraeg safonol, ac mi fydd ei ddylanwad cymaint â hynny’n fwy ogerwydd y bydd cymaint o gyfieithwyr yn ei ddefnyddio.’ Gareth Bevan, Golygydd Geiriadur Prifysgol yn trafod Geiriadur yr Academi)


