Rhestr Awduron Cymru

ELFYN, MENNA

Cysgod y Graig, Stryd y Gwynt, Llandysul, SA44 4BH
E–bost: Menna@elfyn.fsnet.co.uk
Gwefan: www.mennaelfyn.co.uk

Menna ElfynBardd, dramodydd ac awdur amser llawn. Cyhoeddodd unarddeg cyfrol o farddoniaeth ac enillodd sawl gwobr gan Gyngor y Celfyddydau a’r Eisteddfod Genedlaethol amdanynt. Lluniodd bum drama lwyfan ac addasodd dwy ohonynt ar gyfer S4C. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n cydweithio gyda chyfansoddwyr ac yn teithio’r byd yn darllen ei barddoniaeth mewn gwyliau llenyddol amrywiol.  Yn 2002 hi oedd Bardd Plant Cymru.  Erbyn hyn hi yw’r Cyfarwyddwr ysgrifennu ar gyfer y cwrs MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. Enillodd Menna un o Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2007-08 i archwilio i’r agweddau gwahanol o gwsg a’r 80 dull gwahanol a ddefnyddir ar hyn o bryd i’w archwilio’n wyddonol. Derbyniodd Menna Wobr Anima Istranza am Farddoniaeth Dramor mewn seremoni yng Ngwyl Lenyddol Rhyngwladol Olbia, yn Sardinia, yn Hydref 2009.

Mae Menna yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Bydd ei chyfrol ddwyieithog newydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi 2012, yn dwyn y teitl Murmur (Bloodaxe).
 

Detholiad o gyhoeddiadau:
Mwyara (J.D. Lewis, 1976)
Stafelloedd Aros (J.D. Lewis, 1978)
Tro’r Haul Arno (Gomer, 1982)
Hel Dail Gwyrdd (Gomer, 1985)
Mynd lawr i’r nefoedd (Gomer, 1986)
Aderyn Bach Mewn Llaw: Detholiad O Gerddi, 1976-1990 (Gomer, 1990)
Y teulu a’r gymuned (Canolfan Astudiaethau Addysg, 1991)
O’r Iawn Ryw: Cerddi Gan Fenywod Yng Nghymru (Honno, 1991)
Madfall Ar Y Mur (Cyfres Cled) (Gomer, 1993)
Eucalyptus (Gomer, 1995)
Cell Angel (Bloodaxe, 1997)
Trying the Line: A Volume of Tributes to Gillian Clark (Gomer, 1997)
Camlas Y Cwm: Pontardawe (Cyfres Y Man A’r Lle/Places Series) (Gwasg Gregynog, 1999)
Ffwl Yn Y Dwr: Casgliad O Gerddi I Bobl Ifanc (Gomer, 1999)
Cusan Dyn Dall: Blind Man’s Kiss (Bloodaxe, 2001)
Rana Rebel (Gomer, 2002)
Caneri Pinc Ar Dywod Euraid: Cerddi Bardd Plant Cymru 2002-3 a Beirdd Ifanc Cymru (Hughes & Sons, 2003)
Perffaith Nam (Gomer, 2005)
Perfect Blemish: New & Selected Poems 1995-2007 (Bloodaxe, 2007)
Er Dy Fod (Gomer, 2007)
Merch Perygl -Cerddi Menna Elfyn (Gomer, 2011)

Adolygiadau:

'Mae hi'n eich tynnu i mewn i'w byd yn llwyr. Byddwch yn anghofio gadael y trên o'i herwydd. Bydd eich te yn oeri o'i herwydd.' Siân Melangell Dafydd

'Mae ei cherddi … yn destament i'r Gymraeg ei hun fel cyfrwng modern a rhagorol ar gyfer llenyddiaeth o'r radd flaenaf.' Robert Minhinnick 

"Elfyn is a poet of healing…both compassionate and celebratory. Like a soul doctor she questions and probes, like St Teresa she endures the darkness, but in the end she sings a song which affirms that flawed humanity is indeed perfectible." Katie Gramich, Planet

"Mae'n anodd meddwl am unrhyw fardd arall yn y Gymraeg sydd wedi gwneud cymaint â Menna Elfyn i gyfleu a dadansoddi profiadau a theimladau merched ( a phobl o bob math ) yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn ddigyfaddawd ac eto'n dyner." Ceridwen Lloyd Morgan.

"Mae ein dyled yn fawr i Menna Elfyn gan ei bod hi wrthi'n adnewyddu ein Cymraeg trwy ei defnyddio fel offeryn sy'n llwyr atebol i gymhlethdodau bywyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae wedi gosod ffrwydriad wrth droed clogwyn y Gymraeg gan roi defnydd i ni adeiladu hewlydd allan o'r cyfyng-gyngor moesol a gwleidyddol." Gwyneth Lewis



Merch Perygl - Cerddi Menna Elfyn 1976-2011 (Gomer, 2011)
Dyma detholiad thematig o gerddi sy'n rhychwantu bron i ddeugain mlynedd o farddoni. Mae'n dathlu gyrfa farddol unigryw sy'n gyforiog o ddelweddau cofiadwy a thrawiadol.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi. 


 
 

Perfect Blemish/Perffaith NamPerfect Blemish / Perffaith Nam (Bloodaxe, 2007)
Cyfrol ddwyieithog o weithiau diweddara'r bardd, yn cynnwys ei holl waith Cell Angel (1996) a Blind Man's Kiss / Cusan Dyn Dall (2001) ynghyd â chyfieithiad Saesneg cyntaf Perffaith Nam (2005) a detholiad o gerddi eraill. Cyfieithiadau gan Joseph Clancy, Gillian Clarke a Robert Minhinnick ymhlith eraill.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi



Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z