Rhestr Awduron Cymru

AP GLYN, IFOR

Gwelfor, Ffordd Cwstennin, CAERNARFON, Gwynedd LL55 2LF
Ffôn: (01286) 676808 (cartref); (01286) 685300 (gwaith)
Ebost: ifor.ap.glyn@cwmnida.tv

Ewch yma ar gyfer manylion trefnu digwyddiad

Ifor ap GlynBardd-berfformiwr. Ganed a magwyd yn Llundain. Ymwelodd ag ysgolion a chlybiau gyda’r teithiau beirdd Fel yr Hed y Frân (1986), Cicio’r Ciwcymbars (1988), Dal Clêr (1993) a Bol a Chyfri Banc (1995-6). Yn amrywio o’r cynganeddol i’r cocosaidd, gan bwysleisio’r llafar yn hytrach na’r llenyddol. Ef yw Bardd Plant Cymru 2008-2009.



Detholiad o Gyhoeddiadau:

Holl Garthion Pen Cymro Ynghyd (Y Lolfa, 1991)
Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
Bol a Chyfri Banc (ar y cyd â Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd) (Gwasg Carreg Gwalch)
Cerddi Map yr Underground (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
Lleisiau'r Rhyfel Mawr (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)


Adolygiadau:

"Enghraifft wych o'r gallu yma i droi’r manylyn mwyaf amherthnasol yr olwg yn gerdd bwrpasol, drawiadol, yw'r gerdd 'Atgofion Glaslanc' o'r gyfres o gerddi a luniwyd i'w perfformio fel rhan o'r sioe 'Lliwiau Rhyddid'. Sbardun y gerdd yw clywed 'nad yw pysgod trofannol . . . yn lliwgar yn eu llygaid eu hunain!' Ac fel rhan o 'sioe', mae'r gerdd hon, a nifer helaeth o gerddi'r gyfrol, yn arbennig 'y mawr a'r bach', sy'n ymdrin â thranc yr iaith Gernyweg yn null sgets 'parot marw' Monty Python, yn dangos crefft a gallu Ifor fel perfformiwr cerddi doniol a bachog, ar eu gorau."
Iwan Llwyd, Gwales.com, yn trafod Cerddi Map yr Underground



Lleisiau'r Rhyfel Mawr (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Addasiad Lyn Ebenezer. Mae'r gyfrol hon yn seiliedig ar sgriptiau cyfres o'r un enw ar S4C pan fydd Ifor ap Glyn yn adrodd yr hanes yng ngeiriau'r milwyr a'r bobl gyffredin hynny a brofodd arswyd y rhyfel.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.





Cerddi Map yr Underground (Gwasg Carreg Gwalch , 2001)
Casgliad o gerddi sy'n darlunio nifer o groesffyrdd arwyddocaol ym mywydau dysgwyr y Gymraeg yn ogystal â chroesffyrdd ym mywyd y bardd ei hun.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


 


Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
Casgliad o gerddi amrywiol eu themâu a'u mesurau, yn cynnwys y fryddest 'Branwen', a enillodd glod yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1997.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z